Adam Beard
Chwaraewr rygbi'r undeb sydd wedi chwarae dros Gymru yw Adam Beard (ganwyd 7 Ionawr 1996). Mae'n chwarae yn safle'r ail reg ac ar hyn o bryd yn chwarae i'r Gweilch yn y Pro14.
Adam Beard | |
---|---|
Ganwyd | 7 Ionawr 1996 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 203 centimetr |
Pwysau | 117 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Gweilch, Clwb Rygbi Aberafan |
Safle | Clo |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gwnaeth Beard ei ymddangosiad cyntaf i'r Gweilch yn 2012 ar ôl chwarae i'w timau academi, Clwb Rygbi Aberafan a Chlwb Rygbi Treforys.
Chwaraeodd dros Gymru ar lefel dan-20 cyn ennill ei gap llawn cyntaf i Gymru yn erbyn Samoa yn Nhaith yr Haf 2017.[1]
Dechreuodd Beard bob gêm heblaw am yr un yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019, gan sicrhau'r Gamp Lawn gyntaf i Gymru ers 2012.