Akihito, Ymerawdwr Japan
125ed Ymerawdwr Japan 天皇 (tennō) ydy Akihito (明仁); ganwyd 23 Rhagfyr 1933. Mae'n fab i'r ymerawdwr Hirohito (yr Ymerawdwr Shōwa) ac fe'i orseddwyd (1989-2019).
Akihito, Ymerawdwr Japan | |
---|---|
Ganwyd | 継宮明仁親王 23 Rhagfyr 1933 Tokyo Imperial Palace |
Dinasyddiaeth | Japan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | teyrn, pysgodegydd, swolegydd, botanegydd morol |
Swydd | Ymerawdwr Japan, Emperor Emeritus |
Adnabyddus am | A Message from His Majesty The Emperor (March 16, 2011), Message from His Majesty the Emperor (August 8, 2016) |
Taldra | 1.65 metr |
Tad | Hirohito |
Mam | Kōjun |
Priod | Michiko |
Plant | Naruhito, Akishino, Sayako Kuroda |
Llinach | Llys Ymerodrol Japan |
llofnod | |
Ymddeolodd yn wirfoddol ar 30 Ebrill 2019 oherwydd fod ei iechyd yn dirywio ac ei fod yn mynd yn oedrannus. Dyma'r ymddeoliad cyntaf yn y teulu ers Ymerawdwr Kōkaku yn 1817.
Ei enw
golyguYn Japan, ni chaiff yr ymerawdwr ei alw gyda'i enw bedydd, eithr fel "Ei Fawrhydi Ymerawdwr Imperialaidd" a ellir ei fyrháu i "Ei Fawrhydi Imperialaidd" (天皇陛下 Tennō Heika). Ysgrifennir ei enw'n ffurfiol fel "Yr Ymerawdwr Cyfoes" (今上天皇 kinjō tennō). Mae ei gyfnod ar yr orsedd yn cael ei alw'n "Heisei" (平成), ac wedi iddo farw bydd yn cael ei ailenwi'n "Ymerawdwr Heisei" (平成天皇 Heisei tennō); drwy orchymyn Cabined y wlad yn dilyn ei farwolaeth. Ar yr un pryd bydd yr enw ar y cyfnod nesa'n cael ei greu a'i gyhoeddi yngyd ag enw'r ymerawdwr nesaf.[1]
Ymddeolodd o'i wirfodd fel Ymerawrdwr Siapan ar 30 Ebrill 2019 gan adael i'w fab, Naruhito efiteddu'r Orsedd gan ddechrau ei deyrnasiad ar 1 Mai 2019.
Rhagflaenydd: Hirohito |
Ymerawdr Japan 7 Ionawr 1989– 30 April 2019 |
Olynydd: Naruhito |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "National Day of Japan to be celebrated". Embassy of Japan in Pakistan. 2007-12-07. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-02. Cyrchwyd 2007-12-28. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)