Colin McRae
Gyrrwr o'r Alban ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd oedd Colin Steele McCrae MBE (5 Awst 1968 – 15 Medi 2007), mab Jimmy McRae, enillydd Pencampwriaeth Rali Prydain pum gwaith, a brawd hyn y gyrrwr proffesiynol Alister McRae. Enillodd Bencampwriaeth Rali'r Byd yn 1995, a bu'n ail yn 1996, 1997 a 2001, a thrydydd yn 1998.
Colin McRae | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1968 Lanark |
Bu farw | 15 Medi 2007 Lanark |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | co-driver, gyrrwr ceir cyflym, gyrrwr rali |
Tad | Jimmy McRae |
Gwobr/au | MBE, Segrave Trophy |
Chwaraeon |
Helpodd Colin i Subaru ennill Pencampwriaeth y Gwneuthurwyr yn 1995, 1996 a 1997, a Citroën yn 2003. Cafodd MBE gan y frenhines, Elisabeth II, yn 1996.
Bu farw McRae mewn damwain pan ddisgynnodd ei hofrennydd i'r ddaear wrth lanio ar dir ei gartref yn Lanark.
Gyrfa
golyguDechreuodd ei yrfa rali yn 1986, gan yrru Talbot Sunbeam. Roedd yn aml yn cystadlu yng nghystadlaethau Pencampwriaeth Rali'r Alban, a dechreuodd greu enw iw hun am ei gyflymder a'i steil gyffrous o yrru. Cymharwyd ei steil yrru'n aml gyda Ari Vatanen, y gyrrwr rali o'r Ffindir a oedd McRae wastad wedi ei edmygu. Symudodd ymlaen yn fuan i yrru Vauxhall Nova, ac ynaa Ford Sierra XR 4x4. Ei dro cyntaf i gystadlu ym Mhencapwriaeth Ralio'r Byd oedd yn Rali Sweden 1987 tu ôl i llyw ei Nova, ac unwaith eto yn 1989, gyrrodd Sierra a gorffenodd yn y 15fed safle. Yn ddiweddarach yn 1989, gorffenodd yn y 5ed safle yn Rali Seland Newydd mewn Sierra Cosworth â gyrriad olwyn cefn. Ymunodd â dîm Prodrive Subaru yn 1991 ar gyfer Pencampwriaeth Rali Prydain. Bu'n bencampwr Prydeinig ddwywaith, yn 1991 a 1992, graddio'dd yn fuan i statws works ar gyfer y tîm ffactri.
Enillodd ei Bencampwriaeth Rali's Byd cyntaf yn 1993, yn y Subaru Legacy a adeiladwyd gan Prodrive yn Rali Seland Newydd, cyn helpu Subaru i ennill tair teitl gwneuthurwyr golynol, gan gynnwys Pencampwriaeth y gyrrwr yn 1995, a enillodd ar ôl Rali Prydain Fawr, gan i'w gyd-aelod tîm, a oedd yn bencampwr y Byd ddwywaith, Carlos Sainz yn gorffen yn ail. Yn ddiweddarach bu iddo ennill Ras y Pencampwyr yn 1998.
Yn Awst 2007, datganodd McRae ei fod yn chwilio am dîm ar gyfer cystadlu ym Mhencapwriaeth Rali'r Byd yn 2008, gan ategu os na ddigwyddai hyn y flwyddyn nesaf, ni fyddai'n dychwelyd i gystadlu gan yr oedd ond yn bosib fod allan ohoni ar lefel mor uchel am hyn a hyn. (Saesneg: "if it doesn't happen next year, then I won't (return) because you can only be out of something at that level for so long.")[1]
Buddugoliaethau ym Mhencampwriaethau Rali'r Byd
golygu# | Cystadleuaeth | Tymor | Cyd-yrwr | Car |
---|---|---|---|---|
1 | 23ydd Rali Rothmans, Seland Newydd | 1993 | Derek Ringer | Subaru Legacy RS |
2 | 24ydd Rali Rothmans, Seland Newydd | 1994 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
3 | 50fed Rali 'Network Q' | 1994 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
4 | 25ed Rali Rothmans, Seland Newydd | 1995 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
5 | 51fed Rali 'Network Q' | 1995 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
6 | 43ydd Rali Acropolis, Gwlad Groeg | 1996 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
7 | 38fed Rallye Sanremo - Rallye d'Italia | 1996 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
8 | 32ydd 'Rallye Catalunya-Costa Brava' (Rallye de España) | 1996 | Derek Ringer | Subaru Impreza 555 |
9 | 45ed Rali Safari Kenya | 1997 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
10 | 41af Tour de Corse - Rallye de France | 1997 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
11 | 39fed Rallye Sanremo - Rallye d'Italia | 1997 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
12 | 10fed Rali API Awstralia | 1997 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
13 | 53ydd Rali 'Network Q' | 1997 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
14 | 31af TAP Rallye de Portugal | 1998 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
15 | 42ain Tour de Corse - Rallye de France | 1998 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
16 | 45ed Rali Acropolis, Gwlad Groeg | 1998 | Nicky Grist | Subaru Impreza WRC |
17 | 47fed Rali Safari Kenya | 1999 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
18 | 32ain TAP Rallye de Portugal | 1999 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
19 | 36ain Rallye Catalunya-Costa Brava (Rallye de España) | 2000 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
20 | 47fed Rali Acropolis, Gwlad Groeg | 2000 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
21 | 21ain Rali Argentina | 2001 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
22 | 29fed Rali Cyprus | 2001 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
23 | 48fed Rali Rali Acropolis, Gwlad Groeg | 2001 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
24 | 49fed Rali Rali Acropolis, Gwlad Groeg | 2002 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
25 | 50fed Rali 'Inmarsat Safari', Kenya | 2002 | Nicky Grist | Ford Focus WRC |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.autosport.com/news/report.php/id/61320 McRae aiming to return to WRC in '08 Autosport
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Swyddogol Colin McRae
- (Saesneg) Codemasters
- (Saesneg) Colin McRae Official Sportswear Brand Archifwyd 2007-02-20 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Tudalen Ystadegau Rallybase
- (Saesneg) Tudalen Archif Ystadegau WRC
- (Saesneg) Teyrnged a Cofeb Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback