Emyr Glyn Williams

sylfaenydd labeli recordiau, awdur a gwneuthuriwr ffilmiau o Gymro

Roedd Emyr Glyn Williams neu 'Emyr Ankst' (23 Medi 196617 Ionawr 2024)[1][2] yn sylfaenydd labeli recordiau, ysgrifennwr a gwneuthuriwr ffilmiau.

Emyr Glyn Williams
Geni Emyr Glyn Williams
23 Medi 1966
Marw 17 Ionawr 2024
Pentraeth
Enw barddol Emyr Ankst
Galwedigaeth Sylfaenydd Cwmni Recordiau,
Awdur/Ysgrifennwr,
Gwneuthurwr Ffilm
Gwobrau nodedig BAFTA Cymru, 2005
Priod Fiona Cameron

Roedd yn un o sefydlwyr labeli recordiau Ankst ac wedyn Ankstmusik oedd gyda'i gilydd wedi ryddhau dros 170 o recordiau, bron y cyfan yn grwpiau iaith Gymraeg. Yn y 1990au fe weithiodd gyda rhai o grwpiau mwyaf poblogaidd y cyfnod fel Gorky's Zygotic Mynci, Catatonia a Super Furry Animals.

Roedd hefyd yn awdur llyfr Is-Deitla'n Unig ac yn gyfrannwr cyson i’r cylchgrawn llenyddol O'r Pedwar Gwynt.

Label Ankst

golygu
 
Emyr Glyn Williams yn chwarae gyda'r band Siencyn Trempyn, 1985

Roedd yn aelod o’r bandiau Cymraeg Siencyn Trempyn ac Arfer Anfad tra ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn lletya yn Neuadd Pantycelyn.

Roedd yn ffigwr amlwg yn yr hyn a alwyd yn Sîn Roc Gymraeg a sefydlodd y cwmni recordiau Ankst ar y cyd gyda ei ffrindiau coleg Alun Llwyd a Gruffudd Jones yn 1988. Rhwng 1988 a 1997, rhyddhaodd tua 80 o recordiau cyn rhannu yn ddau gwmni ar wahan.

Cymerodd Emyr Glyn Williams yr ochr rhyddhau recordiau gan sefydlu label Ankstmusik. Aeth Alun Llwyd a Gruffudd Jones ymlaen i sefydlu Rheoli Ankst Management Ltd. oedd yn gyfrifol am edrych ar ôl ochr busnes a threfnu grwpiau.

Label Ankstmusik

golygu
Prif: Ankstmusik
 
Logo'r label recordiau Ankstmusik

Mae'r label Ankstmusik wedi rhyddhau bron i gant o wahanol recordiadau gan fandiau megis Datblygu, Tystion, Ectogram, Zabrinski, Rheinallt H Rowlands, MC Mabon a Wendykurk. Mae tri albym diweddar Geraint Jarman wedi eu ryddhau ar y label.

Gweithiodd gyda chwmni Criw Byw fel un o dîm gynhyrchu ar eu rhaglen miwsig Fideo 9 a ddarlledwyd ar S4C ar ddechrau’r 1990au.

Rhyddhawyd hefyd nifer o ffilmiau ar DVD ar labeli Ankst ac Ankst Music yn cynnwys Crymi No. 1, Crymi No. 2, Saunders Lewis vs. Andy Warhol a ‘’Faust: Nobody Knows if It Ever Happened’’ yn dogfennu gig y grŵp almaeneg Arbrofol Faust.

Cafodd ei llyfr Is-Deitla'n Unig am ffilmiau rhyngwladol ei gynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2016[3].

Cynhyrchodd ac ysgrifennodd y ffilm dwyieithog Y Lleill ac enillodd wobr Bafta Cymru yn 2005[4][5].

Gweithiodd fel rheolwr y sinema yn nghanolfan celfyddydau Pontio, Bangor o 2015.

Bywyd personol

golygu

Roedd yn briod â'r bardd Fiona Cameron[6] ac yn byw ym Mhentraeth, Ynys Môn. Roedd ganddynt ddau o blant.

Bu farw yn ei gartref yn 57 mlwydd oed wedi dioddef o ganser. Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Bangor ar 2 Chwefror 2024 am 9yb.

Talwyd teyrnged iddo gan ei ffrind agos ac un o gyd-sylfaenwyr label Ankst, Alun Llwyd gan ddweud bod "Em yn gyfaill, yn gyd-weithiwr, yn gymwynaswr ac yn grewr".

Wrth siarad a BBC Cymru Fyw, dywedodd "O'i waith gyda Ankst i greu ffilmiau a fideos, fe greodd archif ddiwyllianol radical a blaengar sydd cyn bwysiced â dim arall yn y Gymru gyfoes".[7]

Dywedodd y cynhyrchydd recordiau David Wrench - "Tristwch mawr yw marwolaeth fy ffrind Emyr Glyn Williams... Dangosodd Em ffydd ynof ar sawl achlysur, gan roi allan fy recordiau ar ddiwedd y 90au a bod fwy neu lai y person cyntaf i fy nghyflogi fel cynhyrchydd yn gweithio gydag actau fel MC Mabon a Zabrinski ar ddiwedd y 90au/dechrau’r 2000au"

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Sylfaenydd label recordiau Ankst, Emyr Glyn Williams, wedi marw yn 58 oed". newyddion.s4c.cymru. 2024-01-18. Cyrchwyd 2024-01-18.
  2. "Hysbysiad marwolaeth Emyr Glyn Wlliams". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-19.
  3. Is-Deitla'n Unig, Emyr Glyn Wililiams, Gwasg Gomer, Awst. 2015, ISBN-13 ‏: ‎ 978-1785620157
  4. Williams, Emyr Glyn (2005-11-10), Y Lleill, Rhian Green, Morfudd Hughes, John Reynolds, Ankst Musik, https://www.imdb.com/title/tt1071939/?ref_=nm_flmg_t_1_dr, adalwyd 2023-12-01
  5. "2006 Cymru Film | BAFTA Awards". awards.bafta.org. Cyrchwyd 2023-12-01.
  6. "Miss Fiona Cameron | | Prifysgol Bangor". www.bangor.ac.uk. Cyrchwyd 2023-12-01.
  7. "Emyr Glyn Williams, un o sylfaenwyr label Ankst, wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2024-01-18. Cyrchwyd 2024-01-18.