Gwrddelw

santes Cymreig o'r 6g.

Sant o Gymru oedd Gwrddelw (bl. 6g), a gysylltir â Cheredigion a Gwent.[1]

Gwrddelw
GanwydCaerllion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaYr Hen Ogledd, Llanddewi Brefi Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl1 Tachwedd Edit this on Wikidata

Ychydig iawn a wyddom amdano. Yn ôl yr achau traddodiadol roedd yn un o feibion niferus Caw ('Caw o Brydyn' neu 'Caw o Brydain'), brenin o'r Hen Ogledd a gyfrifid yn sant ar ôl ei farw. Ceir rhestr o 21 o'i blant yn chwedl Culhwch ac Olwen.[1]

Cysylltir Gwrddelw â Chaerleon. Roedd Capel Gartheli yn Llanddewi Brefi yn un o'i sefydliadau hefyd.[1]

Gwylmabsant: 7 Ionawr

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2001).

Gweler hefyd

golygu