Lewis Hamilton
Gyrrwr rasio Fformiwla Un o Loegr yw Lewis Carl Davidson Hamilton (ganed 7 Ionawr 1985 yn Stevenage). Ar hyn o bryd mae'n gyrru i dîm Mercedes. Mae o’n pencampwr saith amser o Fformiwla Un, y cydradd uchaf erioed gyda Michael Schumacher. Cafodd ei enwi ar ôl y rhedwr Carl Lewis.
Lewis Hamilton | |
---|---|
Ganwyd | Lewis Carl Davidson Hamilton 7 Ionawr 1985 Stevenage |
Man preswyl | Fontvieille |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gyrrwr Fformiwla Un, gyrrwr ceir cyflym |
Taldra | 174 centimetr |
Pwysau | 68 cilogram |
Partner | Nicole Scherzinger |
Gwobr/au | MBE, Laureus World Sports Award for Breakthrough of the Year, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, Laureus World Sports Award for Sportsman of the Year, L'Équipe Champion of Champions, Segrave Trophy |
Gwefan | https://www.lewishamilton.com/ |
Chwaraeon | |
Tîm/au | McLaren, Mercedes F1 Team |
llofnod | |
Dechreuodd ei yrfa rasio pan oedd yn ddim ond wyth oed. Pan oedd yn ddeg fe enillodd bencampwriaeth Cartio Gwledydd Prydain. Gwnaeth hyn eto bedair gwaith yn ystod y blynyddoedd dilynol. Yn 13 fe arwyddodd gyda rhaglen gefnogi gyrwyr ifanc tîm rasio McLaren.
Collodd allan ar y Bencampwriaeth Fformiwla Un yn 2007 o un pwynt i Kimi Räikkönen. Torrodd y record am y gyrrwr ieuengaf i ennill ras (a gafodd ei torri yn hwyrach gan Sebastian Vettel yn 2008). Gosododd record ar gyfer y nifer o "podiums" yn olynol yn y chwaraeon. Yn Nhachwedd 2008, enillodd y bencampwriaeth Fformiwla Un, gydag un pwynt o flaen Felipe Massa. Dioddefodd Hamitlon o gar andros o wael am ran fwyaf o'r tymor 2009, felly collodd ei bencampwriaeth i Jenson Button o Brawn GP. Ar ôl dri thymor aflwyddiannus arall gyda McLaren, symudodd i dîm Mercedes, a enillodd y bencampwriaeth yn y tymhorau 2014 a 2015. Yn y tymor 2016 gorffennodd yn ail yn y bencampwriaeth i'w bartner Nico Rosberg.