T. H. White
Nofelydd o Loegr oedd Terence Hanbury White (29 Mai 1906 – 17 Ionawr 1964). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gyfres o nofelau Arthuraidd, The Once and Future King.
T. H. White | |
---|---|
Ffugenw | James Aston |
Ganwyd | 29 Mai 1906 Mumbai |
Bu farw | 17 Ionawr 1964 Piraeus |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol |
Adnabyddus am | The Sword in the Stone |
Arddull | ffantasi, nofel hanesyddol |
Gwobr/au | Retro Hugo Award for Best Novel |
Fe'i ganwyd yn Bombay (bellach Mumbai), India, i rieni Seisnig. Astudiodd yn Lloegr yng Ngholeg Cheltenham, Swydd Gaerloyw, a Choleg y Breninesau, Caergrawnt. Yng Nghaergrawnt ysgrifennodd draethawd ar Le Morte d'Arthur gan Thomas Malory, a graddiodd ym 1928 gyda gradd yn y Saesneg. Roedd yn athro yn Ysgol Stowe, Swydd Buckingham, am bedair blynedd. Ym 1936, gadawodd ei swydd a bu'n byw mewn bwthyn ciper gerllaw, lle ysgrifennodd, ac ymgymerodd â hela, heboca a physgota. Yn ystod y cyfnod hwn ailddarllenodd Le Morte d'Arthur, a dechreuodd ei fersiwn ei hun o stori'r Brenin Arthur, The Sword in the Stone. Ym 1939 symudodd i Swydd Meath, Iwerddon, lle treuliodd yr Ail Ryfel Byd. Ym 1946 symudodd i Alderney, Ynysoedd y Sianel, lle treuliodd weddill ei fywyd.
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Loved Helen (1929)
- The Green Bay Tree (1929)
- Dead Mr. Nixon (1931) (gyda R. McNair Scott)
- First Lesson (1932) (fel James Aston)
- They Winter Abroad (1932) (fel James Aston)
- Darkness at Pemberley (1932)
- Farewell Victoria (1933)
- Earth Stopped (1934)
- Gone to Ground (1935)
- England Have My Bones (1936)
- Burke's Steerage (1938)
- The Once and Future King
- The Sword in the Stone (1938)
- The Queen of Air and Darkness (teitl gwreiddiol The Witch in the Wood, 1939)
- The Ill-Made Knight (1940)
- The Candle in the Wind (1958)
- Mistress Masham's Repose (1946)
- The Elephant and the Kangaroo (1947)
- The Age of Scandal (1950)
- The Goshawk (1951)
- The Scandalmonger (1952)
- The Book of Beasts (cyfieithydd, 1954)
- The Master (1957)
- The Godstone and the Blackymor (1959)
- America at Last (1965)
- The Book of Merlyn (1977)
- A Joy Proposed (1980)
- The Maharajah and Other Stories (golygydd Kurth Sprague) (1981)
- Letters to a Friend (1984)