Charlotte Augusta o Hannover
unig blentyn y Rhaglyw Dywysog (Siôr IV yn hwyrach)
(Ailgyfeiriad o Tywysoges Charlotte o Gymru)
- Mae "Tywysoges Charlotte" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Ni ddylid cymysgu'r dywysoges hon â merch y Tywysog William a'r Dywysoges Catherine a aned yn 2015.
Tywysoges Brydeinig oedd Charlotte Augusta (7 Ionawr 1796 – 6 Tachwedd 1817). Hi oedd unig blentyn cyfreithlon Siôr, Tywysog Cymru (y Rhaglyw Dywysog; y brenin Siôr IV yn hwyrach), o linach yr Hanoferiaid; o ganlyn cyfeirir ati naill ai fel Charlotte Augusta o Hannover neu Charlotte Augusta o Gymru. Caroline o Braunschweig oedd ei mam, ac fe'i ganed yn Carlton House, Llundain.
Charlotte Augusta o Hannover | |
---|---|
Ganwyd | Princess Charlotte Augusta of Wales 7 Ionawr 1796 Carlton House |
Bu farw | 6 Tachwedd 1817 o anhwylder ôl-esgorol Claremont |
Man preswyl | Carlton House, Claremont |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | pendefig |
Plaid Wleidyddol | Chwigiaid |
Tad | Siôr IV, brenin y Deyrnas Unedig |
Mam | Caroline o Braunschweig |
Priod | Leopold I |
Plant | mab marw-anedig Von Sachsen-Coburg Und Gotha |
Llinach | Tŷ Hannover |
Gwobr/au | Bonesig Uwch Cordon Urdd y Santes Catrin |
llofnod | |
Priododd y Tywysog Leopold Georg Christian Friedrich o Sachsen-Coburg-Saalfeld, a ddaeth yn hwyrach yn frenin cyntaf Gwlad Belg, ar 2 Mai 1816. Bu farw Charlotte yn 21 oed ar ôl esgor ar fab marw-anedig.