Ymosodiadau Charlie Hebdo
Ymosodiad terfysgol angeuol ar bencadlys y cylchgrawn dychanol wythnosol Charlie Hebdo ym Mharis, 7 Ionawr 2015, oedd ymosodiadau Charlie Hebdo. Lladdwyd 12 person, gan gynnwys 2 heddwas, ac anafwyd 11 - 4 ohonynt yn ddifriol.[1] Roedd yr darlunwyr Charb, Cabu, Honoré, Tignous, Wolinski, a'r economegydd Bernard Maris ymysg y meirw.
Math | saethu torfol, ymosodiad terfysgol |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Nifer a laddwyd | 12 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | January 2015 Île-de-France attacks, terrorism in France |
Lleoliad | 10, Rue Nicolas-Appert |
Sir | 11th arrondissement of Paris |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.8592°N 2.3703°E |
Cyfnod | 7 Ionawr 2015 |
Hanes
golyguAm tua 11.30 y bore ar 7 Ionawr 2015, aeth dau ddyn wedi'u harfogi gyda reifflau AK-47, dryll pelets a grenad roced-yredig i swyddfeydd y cylchgrawn dychanol wythnosol. Saethodd y dynion hyd at 50 pelen gydag arfau awtomatig, tra oeddynt yn gweiddi "Allahu Akbar", sef "Mawr yw Duw" yn Arabeg.[2] Lladdwyd deuddeg o bobl, gan gynnwys y golygydd Stéphane "Charb" Charbonnier, saith person arall a oedd yn gweithio i Charlie Hebdo, a dau heddwas ac anafwyd 11 arall.[3][4][5] Yn y gorffennol, roedd y cylchgrawn wedi denu sylw'r byd yn sgil ei ddarluniadau o Muhammed, sylfaenydd y crefydd Islam.[6]
Arestiodd yr heddlu nifer o bobl mewn cysylltiad â'r digwyddiad tra bod yn chwilio am y ddau ymosodwr. Yn wreiddiol, cafodd trydydd person drwgdybiedig ei adnabod gan yr heddlu ac ildiodd ef ei hun i'r awdurdodau. Disgrifwyd yr ymosodwyr fel pobl "arfog a pheryglus" gan yr heddlu, a chodwyd y lefel bygythiad i'w statws uchaf posib yn Île-de-France a Picardie. Ar 9 Ionawr, canfuwyd yr ymosodwyr mewn ystad ddiwydiannol yn Dammartin-en-Goële, lle roedd ganddynt wystl.[7]
Cysylltwyd y saethu yn swyddfeydd Charlie Hebdo ag achos arall o saethu yn Montrouge a chanfuwyd bod pedwerydd person drwgdybiedig. Roedd y dyn hwn wedi cipio gwystlon hefyd mewn archfarchnad kosher yn Porte de Vincennes.[8] Gwnaeth yr heddlu gyrchoedd ar yr un pryd yn Dammartin ac yn Porte de Vincennes; lladdwyd tri terfysgwr, a lladdwyd neu anafwyd rhai gwystlon.[9] Cadarnhaodd Arlywydd Ffrainc François Hollande fod pedwar gwystl wedi'u lladd yn yr archfarchnad yn Vincennes, a chadarnhaodd yr erlynydd eu bod wedi'u lladd cyn i'r heddlu weithredu.[10][11] Mae pumed person drwgdybiedig yn dal heb ei dal.[12]
Lladdwyd cyfanswm o ugain person mewn pedwar lleoliad gwahanol rhwng 7 a 9 Ionawr, yn cynnwys y tri therfysgwr ac anafwyd o leiaf un ar hugain o bobl eraill, rhai ohonynt yn ddifrifol. Dyma oedd ymosodiad terfysgol gwaethaf Ffrainc ers Bom tren Vitry-Le-François 1961 gan yr Organisation de l'armée secrète (OAS).[13]
Cyhoeddodd gweddill staff Charlie Hebdo y byddai'r cylchgrawn yn parhau fel arfer, gyda chynlluniau i argraffu miliwn o gopîau o'r rhifyn nesaf, yn hytrach na'i 60,000 arferol.[14][15]
Ymateb
golyguYn dilyn yr ymosodiadau hyn cafwyd condemniad o weithredoedd y terfysgwyr gan nifer o wledydd y byd a bathwyd y slogan "Je suis Charlie", Ffrangeg am: "Fi ydy Charlie") gan gefnogwyr ryddid barn a gwrthwynebiad i derfysgaeth ledled y byd. Dechreuwyd ei ddefnyddio ar 'Twitter' ac ymledodd fel tân gwyllt. Symbol arall a ddaeth i'r amlwg drwy'r cyfryngau torfol oedd y y bensel.[16]
Bron yn syth ar ôl y saethu daeth 35,000 o bobl at ei gilydd ym Mharis i ddangos eu cefnogaeth i'r rhai a fu farw, ac i ryddid barn. Ymledodd y protestiadau hyn drwy'r byd gan ddod i'w hanterth ar benwythnos y 10-1fed o Ionawr. Cerddodd dros 700,000 o bobl mewn protest yn Ffrainc ar y 10fed o Ionawr, a chafwyd gorymdeithiau tebyg yn: Toulouse (gyda 100,000), Marseille (45,000), Lille (35–40,000), Nice (23–30,000), Pau (80,000), Nantes (75,000), Orléans (22,000), a Caen (6,000).[17]
Dywed awdurdodau Ffrainc i dair miliwn o bobl orymdeithio ar y dydd Sul.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Comment s'est déroulée l'attaque contre "Charlie Hebdo" (yn Ffrangeg) Le Monde 07-01-2015
- ↑ Charlie Hebdo attack – latest (7 Ionawr 2015).
- ↑ Police converge on area north-east of Paris in hunt for Charlie Hebdo gunmen (8 Ionawr 2015).
- ↑ Gun attack on French magazine Charlie Hebdo kills 11. BBC News (7 Ionawr 2015).
- ↑ Charlie Hebdo attack: 12 dead in Paris, manhunt on. CNN.
- ↑ Charlie Hebdo: Major manhunt for Paris gunmen. BBC News.
- ↑ Charlie Hebdo: major operation north-east of Paris in hunt for suspects – live updates. The Guardian.
- ↑ EN DIRECT. Porte de Vincennes: 5 personnes retenues en otage dans une épicerie casher. Le Parisien (9 Ionawr 2015).
- ↑ EN DIRECT – Les frères Kouachi et le tireur de Montrouge abattus simultanément. Le Figaro.
- ↑ Quatre otages tués à Paris dans une supérette casher. Libération (9 Ionawr 2015).
- ↑ Matthew Weaver. Charlie Hebdo attack: French officials establish link between gunmen in both attacks — live. the Guardian.
- ↑ BFMTV. Hayat Boumeddiene, la femme la plus recherchée de France.
- ↑ L'attentat le plus meurtrier depuis Vitry-Le-François en 1961. Le Figaro (7 Ionawr 2015).
- ↑ Charlie Hebdo will come out next week, despite bloodbath. The Times of India (8 Ionawr 2015).
- ↑ Charlie Hebdo staff vow to print 1 m copies as French media support grows (8 Ionawr 2015).
- ↑ "image". enisyavuz.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-09. Cyrchwyd 8 Ionawr 2015.
- ↑ "Plus de 700 000 personnes défilent contre le terrorisme en France" (yn French). Le Monde.fr. AFP. 2015-01-10. Cyrchwyd 2015-01-11. Unknown parameter
|trans_title=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)