Oxford Dictionary of National Biography
Math o gyfrwng | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Golygydd | Colin Matthew |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Rhydychen |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 2004 |
Genre | bywgraffiadur cenedlaethol |
Rhagflaenwyd gan | Dictionary of National Biography |
Lleoliad cyhoeddi | Rhydychen |
Gwefan | https://www.oxforddnb.com/ |
Bywgraffiadur a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen yw'r Oxford Dictionary of National Biography. Mae'n cynnwys bywgraffiadau o bobl o Ynysoedd Prydain, o'r amseroedd cynharaf hyd at y gorffennol diweddar. Mae'n olynydd i'r Dictionary of National Biography, a gyhoeddwyd mewn 63 cyfrol rhwng 1885 a 1900. Syr Leslie Stephen, tad Virginia Woolf, oedd golygydd cyntaf y DNB. Cyhoeddwyd atodiadau i'r bywgraffiadur yn ysbeidiol rhwng 1901 a 1996 er mwyn cynnwys marwolaethau diweddar, ond ni wnaed ymdrech i ddiwygio'r gwaith cyfan, a oedd yn cynnwys nifer o destunau Fictoraidd, nes 1992. Yna fe gychwynnodd gwaith ar fersiwn newydd â'r golygydd Colin Matthew wrth y llyw.[1] Cyhoeddwyd hyn, mewn print ac ar lein, ar 23 Medi 2004.
Cynyddwyd nifer y bywgraffiadau o 30,941 yn y DNB gwreiddiol i 54,992 yng nghyhoeddiad 2004 o'r ODNB, a nifer yr awduron o 653 i 12,550. 60 cyfrol sydd gan fersiwn print yr ODNB; yn wahanol i arfer yr hen DNB, cyhoeddwyd y rhain i gyd ar y cyd.[2] Caiff y fersiwn ar-lein ei ddiwygio tair gwaith bob blwyddyn.[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Introduction; History of the DNB; Plans for a new DNB. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.
- ↑ Barker, Nicolas (10 Rhagfyr 2004). The biographists’ tales, The Times Literary Supplement, Rhifyn 5306, tud. 5–7
- ↑ (Saesneg) About the DNB. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.