Neidio i'r cynnwys

Edgar Evans (fforiwr)

Oddi ar Wicipedia
Edgar Evans
Evans yn 1911
Ganwyd7 Mawrth 1876 Edit this on Wikidata
Rhosili Edit this on Wikidata
Bu farw17 Chwefror 1912 Edit this on Wikidata
Beardmore Glacier Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, person milwrol Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Pegynau Edit this on Wikidata

Fforiwr o Gymru oedd Edgar Evans (7 Mawrth 187617 Chwefror 1912). Roedd yn aelod o'r tîm a aeth i Antarctica i geisio cyrraedd Pegwn y De o dan arweinyddiaeth Robert Falcon Scott a chyrhaeddodd yno ar 17 Ionawr 1912, wedi taith o 11 wythnos. Bu farw ar y daith yn ôl o Begwn y De.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Edgar Evans ym mwthyn Middleton Hall, Rhosili, ym Mhenrhyn Gŵyr ym mis Mawrth 1876.[1] Roedd gan y teulu wreiddiau dwfn yn yr ardal, gyda’i dad, Charles, yn forwr profiadol. Roedd yn un o’r ‘Cape Horners’ enwog a oedd yn hwylio o gwmpas yr Horn, sef pegwn mwyaf deheuol de Tsile, yn Ne America, er mwyn cludo copr o wledydd yn Ne America ar gyfer diwydiant copr llewyrchus Abertawe.[2] Roedd ei fam, Sarah, yn ferch i William Beynon, tafarnwr Tafarn y Ship ym Middleton ac Ann oedd enw ei mam. Priodwyd hwy yn 1862 ym mhentref Rhosili a ganwyd wyth o blant iddynt, er y cofnodir bod Sarah wedi geni deuddeg o blant.[2]

Symudodd y teulu yn 1883 i Hoskin’s Place, Abertawe gan fod Charles wedi cael swydd ar long ‘The Sunlight’, ac roedd Abertawe ar ddiwedd y 19eg ganrif yn parhau i fod yn ganolfan ddiwydiannol a morwrol bwysig.

Pan oedd yn 10 oed dechreuodd Edgar weithio fel negesydd telegramau i Brif Swyddfa Abertawe, a golygai hyn ei fod yn mynychu’r ysgol ar delerau rhan-amser. Pan oedd y teulu’n byw yn Rhosili mynychodd Edgar yr ysgol leol yn Middleton ac yna Ysgol Santes Helen, Abertawe, tan oedd yn 13 oed. Erbyn hyn, roedd Edgar wedi rhoi ei fryd ar fynd i’r Llynges ac yntau wedi ei amgylchynu gan hanes a diwydiant morwrol cryf Abertawe. Roedd hyd yn oed wedi ceisio ymuno â’r Llynges pan oedd yn 14 mlwydd oed.[2]

Ymunodd â’r Llynges Frenhinol pan oedd yn 15 mlwydd oed yn 1891. Dechreuodd ar ei yrfa forwrol ar HMS Impregnable cyn bwrw ymlaen i ddatblygu ei sgiliau morwrol ar long hyfforddi HMS Ganges a oedd wedi ei hangori yn Aberfal, Cernyw. Cafodd Edgar Evans brofiad morwrol ar nifer o longau eraill - yn eu plith, HMS Trafalgar, HMS Cruiser, HMS Vivid ac HMS Excellent. Tra'r oedd ar HMS Vivid dysgodd am arfau a ddefnyddiwyd ar longau, fel taflegrau a thorpidos. Daeth i gysylltiad â Robert Scott am y tro cyntaf pan ymunodd â chriw HMS Majestic yn 1899. Roedd Scott yn lefftenant torpido ar y llong. Erbyn 1900 roedd Evans wedi cyrraedd rheng Is-gapten, 2il ddosbarth ac roedd ei swydd yn cyfateb i swydd sarsiant yn y fyddin neu’r heddlu, gyda chyfrifoldeb dros forwyr eraill a rhedeg y llong a chadw trefn.[2]

Discovery a Terra Nova

[golygu | golygu cod]

Discovery

[golygu | golygu cod]

Roedd wedi ymuno â thaith gyntaf Scott i’r Antartig rhwng 1901 a 1904 ar fwrdd llong RRS Discovery.[3] Y tro hwnnw, ei swydd oedd is-swyddog, 2il ddosbarth gyda Robert Falcon Scott yn arweinydd yr ymgyrch, ac ymhlith aelodau eraill y criw o 59[4] roedd Ernest

Shackleton, trydydd lefftenant ac arweinydd ymgyrch Brydeinig Nimrod rhwng 1907 a 09 i’r Antartig.[5] Pwrpas y daith oedd chwilio am wybodaeth newydd am ddaearyddiaeth yr Antartig ac i wneud ymchwil gwyddonol, gan fod hwn yn gyfandir nad oedd pobl yn gwybod llawer amdano.[2]

Terra Nova

[golygu | golygu cod]
Pegwn[dolen farw] y De, 1912. Mae Edgar Evans yn eistedd ar y dde

Dewiswyd Edgar Evans gan Robert Scott i fod yn aelod o’i ail ymgyrch i’r Antartig, sef ymgyrch Terra Nova, a fu ar waith rhwng 1910 a 13.[2] Ymhlith aelodau blaenllaw eraill yr ymgyrch roedd Edward Adrian Wilson, Henry Robertson Bowers, a Lawrence ‘Titus’ Oates. Cychwynnodd taith y Terra Nova o Gaerdydd ar 5 Mehefin 1910[6] a chan fod Caerdydd wedi derbyn statws dinas yn 1905 roedd lansiad o’r fath yn dwyn sylw a chyhoeddusrwydd i’r ddinas newydd. Trefnwyd gwledd ffarwel cyn cychwyn yr ymgyrch gan Siambr Fasnach Caerdydd. Mae cerflun i gofnodi hwyliad y Terra Nova o Gaerdydd i’w weld heddiw ym Mae Caerdydd ger yr Eglwys Norwyaidd.

Dewiswyd Evans ar gyfer yr ymgyrch gan Scott oherwydd ei gryfder a’i sgiliau yn medru trefnu’r adnoddau a'r offer angenrheidiol ar gyfer ymgyrchoedd tebyg - er enghraifft, pebyll, sachau cysgu ac ati. Roedd llong y Terra Nova yn hen long hela morfilod ac roedd ei chriw ar daith rhwng 1910 a 13 yn 65 mewn nifer ac yn cynnwys doctoriaid a gwyddonwyr fel biolegwyr ac arbenigwyr yn y môr a’r tywydd. Ymhlith yr adnoddau hefyd roedd ceffylau, cŵn a slediau modur. Yn nes ymlaen codwyd adnoddau eraill yn Seland Newydd ar ddiwedd Tachwedd 1910, gan gynnwys tanwydd fel glo a bwydydd fel cig oen ac eidion.[2]

O fewn tri mis i gychwyn o’r gwersyll cyntaf, cyrhaeddwyd Pegwn y De ar 17 Ionawr 1912, ond fe'u siomwyd yn fawr pan sylweddolodd y criw o bump bod yr anturiwr o Norwy, Roald Amundsen, wedi cyrraedd Pegwn y De bum wythnos ynghynt. Roedd Amundsen wedi defnyddio cŵn esgimo yn hytrach na cheffylau i dynnu'r slediau, tra bod y ceffylau a ddefnyddiwyd gan Scott wedi gweld y tywydd garw yn anodd gyda rhai ohonynt yn trigo.[7]

Daeth ton o siom dirfawr dros y criw, a bu’r daith yn ôl yn llafurus a diflas. Yn ystod y daith i Begwn y De, cafodd Edgar Evans anaf i’w law, a gan ei fod mor awyddus i gyrraedd y Pegwn ni soniodd am ei anaf.[8] Ar y daith yn ôl dioddefodd ewinrhew ar ei fysedd, ei drwyn a'i fochau, ac anaf i’w ben wedi iddo gwympo i mewn i hafn iâ wrth iddynt ddod i lawr rhewlif (neu fynydd iâ) Beardmore.

Roedd y tywydd yn eithriadol o oer, gyda’r tymheredd yn cyrraedd minws 34C[6] ac oherwydd anaf Evans arafwyd taith ddychwelyd y criw, a arweiniodd at ddiffyg bwyd. Soniodd Scott yn ei ddyddiadur am anaf Edgar Evans, ac yn amlwg roedd yn sylweddoli y gallai hynny arwain at ganlyniadau difrifol wrth i gyflwr cyffredinol Evans waethygu. Roedd diffyg bwyd a chalorïau, yn enwedig gyda’r math o waith roedd Evans yn ei wneud ar y daith, wedi gwanhau ei gorff fel na allai ymdopi bellach gyda’i anaf. Wrth agosáu at Fynydd Iâ Beardmore, syrthiodd Evans, wedi cael ei lethu gan ei anafiadau, ac aethpwyd ag ef yn ôl ar sled i’r gwersyll. Edgar Evans oedd y cyntaf o’r pump i farw, ar 17 Chwefror 1912, a chladdwyd ef wrth droed Mynydd Iâ Beardmore.[8]

Daeth diwedd trist i’r ymgyrch gyda gweddill y criw o bump yn marw cyn dychwelyd oherwydd yr oerfel ofnadwy, blinder llethol a phrinder bwyd.

Cofeb i Evans yn Eglwys Rhosili

Roedd Edgar Evans wedi priodi ei wraig, Lois yn 1904, ac roedd ganddynt tri o blant. Rhoddodd Lois gofeb yn Eglwys Rhosili i gofio am ei gŵr, a gofnodai ei fod wedi marw ar y daith yn ôl o Begwn y De, ac yn 2014 gosodwyd plac i gofnodi man geni Edgar Evans ar Benrhyn Gŵyr.

Mae cofeb hefyd i gamp Capten Scott a’i griw ar ffurf goleudy yn Llyn Parc y Rhath yng Nghaerdydd.[1]

Mae gorchest Evans yn cael ei chofio hefyd mewn adeilad hyfforddiant morwrol a enwyd ar ei ôl, ar Whale Island, Portsmouth, lle agorwyd Adeilad Edgar Evans yn 1964. Hwn oedd yr adeilad cyntaf a enwyd ar ôl is-gapten yn hytrach na rhaglaw. Dymchwelwyd yr adeilad yn 2010 ond adeiladwyd bloc preswyl newydd a'i enwi er teyrnged i Evans. Mae’r adeilad newydd yn cynnwys cofeb iddo sy’n cynnwys dwy sgi a ddefnyddiodd yn yr Antartig.[9]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Turner, Robin (2014-11-28). "Blue plaque unveiled for polar explorer Edgar Evans 100 years after his death". WalesOnline. Cyrchwyd 2020-09-02.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Williams, Isobel. (2012). Captain Scott's invaluable assistant : Edgar Evans. Stroud: History. ISBN 978-0-7524-5845-8. OCLC 755071964.
  3. "Swansea honours Pole explorer". BBC News (yn Saesneg). 2012-02-17. Cyrchwyd 2020-09-02.
  4. "British Antarctic Expedition 1901- 04, Discovery, Crew and Personnel List". www.coolantarctica.com. Cyrchwyd 2020-09-02.
  5. "Ernest Shackleton | Biography, Facts, & Voyage of Endurance". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-02.
  6. 6.0 6.1 Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 337. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  7. "Antarctica - Discovery of the Antarctic poles". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-02.
  8. 8.0 8.1 "Edgar Evans "Taff" (1876 - 1912) - Biographical notes". www.coolantarctica.com. Cyrchwyd 2020-09-02.
  9. "Edgar Evans". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-02.