Alcemi
Daw'r gair alcemi (weithiau alcemeg) o'r gair Arabeg الخيمياء al-khīmiyā' [1]) sef yr astudiaeth cynnar o natur, athroniaeth a'r goruwchnaturiol ynghyd â chemeg. Sylwer ar y gair Arabeg, al + khimiya, sef "(Y) Cemeg": roedd yn llawer mwy na dim ond ceisio troi metalau megis plwm yn aur.
Delwedd:Alchemik Sedziwoj Matejko.JPG, JosephWright-Alchemist-1.jpg | |
Math o gyfrwng | protoscience |
---|---|
Math | yr Ocwlt |
Rhan o | athroniaeth naturiol |
Olynydd | cemeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd alcemi yn gyfuniad o'r disgyblaethau uchod a'r canlynol: metaleg, ffiseg, meddygaeth, astroleg, semioteg, cyfriniaeth, ysbrydaeth, a chelf. Roedd yn cael ei ymarfer ym Mesopotamia, Yr Aifft, Persia, India, Japan, Corea, Tsieina, Groeg a Rhufain, ac yna yn Ewrop hyd at y 19eg ganrif - cyfnod hir o dros 2500 o flynyddoedd.