Anhafaledd Cauchy-Schwarz
Enghraifft o'r canlynol | theorem, inequality |
---|---|
Math | triangle inequality |
Mewn mathemateg, anhafaledd sy'n ddefnyddiol mewn sawl sefyllfa wahanol yw anhafaledd Cauchy–Schwarz, (hefyd anhafaledd Schwarz, Anhafaledd Cauchy, neu Anhafaledd Cauchy–Bunyakovski–Schwarz).
Cynrychiolir yr anhafaledd yn gryno fel a ganlyn:
Mae'r ddwy ochr yn hafal os, a dim ond os, y mae
Ffordd arall o fynegi hyn yw dweud bod
ar gyfer unrhyw elfennau x ac y o ofod lluoswm mewnol real neu gymhlyg. Mae'r ddwy ochr yn hafal os, a dim ond os mae x ac y yn llinol-dibynnol (neu, o feddwl yn geometraidd, yn gyfochrog).
Mae'r anhafaledd felly'n darparu cysyniad o'r "ongl rhwng dau fector" i ofod lluoswm mewnol, lle nad yw geometreg Ewclidaidd yn gwneud synnwyr o reidrwydd. Mae felly'n cyfiawnhau meddwl am ofodau lluoswm mewnol fel cyffredinoliad o ofod Ewclidaidd.
Canlyniad pwysig anhafaledd Cauchy–Schwarz yw'r ffaith fod lluoswm mewnol yn ffwythiant di-dor.
Rhoddir ffurf arall o'r anhafaledd gan ddefnyddio nodiant norm:
Profwyd fersiwn meidraidd-ddimensiynol yr anhafaledd hwn ar gyfer fectorau real gan Cauchy yn 1821, ac yn 1859 profodd V.Ya.Bunyakovsky ei fod yn bosib canfod ffurf integraidd o anhafaledd Cauchy. Profwyd y canlyniad cyffredinol ar gyfer gofod lluoswm mewnol gan K.H.A.Schwarz ym 1885.
Prawf
[golygu | golygu cod]Gan fod yn amlwg fod yr anhafaledd yn wir pan mae y = 0, fe gawn gymryd fod <y, y> yn an-sero. Gadewch i fod yn rhif cymhlyg. Yna mae
Gan ddewis
gwelwn fod
sy'n wir os, a dim ond os y mae
hynny yw:
Sef anhafaledd Cauchy-Schwarz.
Achosion arbennig nodedig
[golygu | golygu cod]Rn
[golygu | golygu cod]Mewn gofod Ewclidaidd Rn, gyda'r lluoswm mewnol arferol, dyma anhafaledd Cauchy-Schwarz:
L2
[golygu | golygu cod]Yn y gofod lluoswm mewnol o ffwythiannau sqwâr-integraidd â gwerthoedd cymhlyg, mae gennym fod:
Mae anhafaledd Hölder yn gyffredinoliad o hyn.
Defnydd
[golygu | golygu cod]Fe'i defnyddir yn aml i brofi'r anhafeledd triongl ar gyfer y lluoswm mewnol: cymerwch fectorau x ac y,
Mae cymryd ail-israddau'n rhoi'r anhafaledd triongl.
Gellir defnyddion anhafaledd Cauchy–Schwarz wrth brofi anhafaledd Bessel.
Deillir ffurf cyffredinol egwyddor ansicrwydd Heisenberg trwy ddefnyddioanhafaledd Cauchy-Schwarz inequality yn y gofod lluoswm mewnol o ffwythiannau ton ffisegol.
Cyffredinoliadau
[golygu | golygu cod]Mae yna sawl cyffredinoliad posib o anhafaledd Cauchy-Schwarz yng nghyd-destyn haniaeth gweithredyddion.