Neidio i'r cynnwys

Anime

Oddi ar Wicipedia
Anime
Delwedd:Mirai Suenaga with summer school uniform and K-on character style 20110305.jpg, Anime DVDs.JPG, Anime video frame.png, Wikipe-tan in Different Anime Styles.png
Enghraifft o'r canlynolgenre mewn ffilm, animation style Edit this on Wikidata
Mathgwaith clyweld Edit this on Wikidata
Rhan oanime and manga Edit this on Wikidata
Yn cynnwysffilm anime, anime television program Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Anime cyfrifiadur

Talfyriad Japaneg o'r gair Saesneg "animation" ydy anime (Japaneg: アニメ) [anime] (Ynghylch y sain ymagwrando) ac mae'n cyfeirio'n benodol at animeiddiadau wedi'u cynhyrchu yn Japan.[1]

Mae'n deillio yn ôl i 1917,[2] a daeth yn ffasiynol iawn yn Japan ers hynny. Yn yr 1980au daeth yn ffasiynol drwy'r byd. Mae'n cael ei ddarlledu ar deledu, fideo, DVD a hyd yn oed yn y theatr.

Ceir dau fath: cartwnau wedi'u gwneud gyda llaw a rhai wedi'u cynhyrchu gan gyfrifiadur.

Un esiampl o anime yw'r rhaglen Siapaneg "Sailor Moon". Mae'n sôn am bum merch sy'n stopio'r 'Negaverse' drwg rhag cymryd drosodd Tokyo.

Mae'r gair "Anime" yn tarddu o'r dywediad Ffrangeg dessin animé.[3]

Mae'r diwydiant anime yn cynnwys dros 430 o stiwdios, llawer yn enwau mawr: Studio Ghibli, Gainax a Toei Animation. Dim ond ychydig o'r farchnad domestig sydd ganddyn nhw ond talp enfawr o'r diwydiant DVD. Mae anime wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y deng mlynedd diwaetha. Mae anime Japan wedi cael ei gopio gan nifer o wledydd eraill.

Diffiniad

[golygu | golygu cod]

Math o gelf ydy Anime, yn enwedig mewn animeiddiadau, ac mae'n cynnwys yr holl genres y sinema, ond mae o'n cael ei gam-alw yn genre ei hun.[4]:7 Yn Japan caiff y gair ei ddefnyddio am bob math o animeiddio drwy'r byd.[5] Mae geiriaduron Saesneg yn diffinio anime fel "animeiddiad o Japan" neu "math o animeiddio a sefydlwyd yn Japan".[6][7]

Dojikko ('merch afrosgo'): un math o gymeriad o fewn anime.

Mathau

[golygu | golygu cod]

Mae llawer o anime wedi'i seilio ar fanga; dyma'r gwahanol fathau:

Llygaid anime - symbol o'r genre.

Cychwynodd anime ar ddechrau'r 20g, pan grëodd cyfarwyddwyr o Japan nifer o animeiddiadau, gyda nifer o wledydd eraill yn dilyn: Ffrainc, yr Almaen, Rwsia a'r Unol Daleithiau America.[8] Y darn cyntaf i gael ei greu oedd yn 1917 – clip dau funud yn dangos samwrai yn ymarfer ei gleddyf ar ei darget.[9][10] Enw rhai o'r arlunwyr cyntaf ydy: Shimokawa Oten, Jun'ichi Kouchi, a Seitarō Kitayama.[11]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. anime - Diffiniad Saesneg allan o Merriam-Webster Online Dictionary
  2. "Adalwyd 31 Rhagfyr 2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-17. Cyrchwyd 2008-04-17.
  3. "Etymology Dictionary Reference: Anime". Etymonline. Cyrchwyd 2007-09-13.
  4. Poitras, Gilles (2000). Anime Essentials: Every Thing a Fan Needs to Know. Stone Bridge Press. tt. 7–115. ISBN 978-1-880656-53-2.
  5. "Tezuka: The Marvel of Manga - Education Kit" (PDF). Art Gallery New South Wales. 2007. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 2007-08-30. Cyrchwyd October 28, 2007.
  6. "Anime Dictionary Definition". Dictionary.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-11-02. Cyrchwyd October 9, 2006. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. "Merriam-Webster:anime". Merriam-Webster. Cyrchwyd November 18, 2010.
  8. Schodt, Frederik L. (Reprint edition (Awst 18, 1997)). Manga! Manga!: The World of Japanese Comics. Tokyo, Japan: Kodansha International. ISBN 0-87011-752-1. Check date values in: |date= (help)
  9. "Japan’s oldest animation films". ImprintTALK. 2008-03-31. http://imprinttalk.com/?p=1557. Adalwyd 2012-09-27.
  10. "Historic 91-year-old anime discovered in Osaka". HDR Japan. 2008-03-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-02. Cyrchwyd 2008-05-12.
  11. Yamaguchi, Katsunori (1977). Nihon animēshon eigashi. Yūbunsha. tt. 8–11. Unknown parameter |coauthors= ignored (help)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]