Barddoniaeth elegeiog
Enghraifft o'r canlynol | mesur |
---|---|
Math | distichon |
Yn cynnwys | mesur chweban, mesur pumban |
Barddoniaeth a genir ym mesur y cwpled elegeiog, sef llinell chwebannog wedi ei dilyn gan linell bumban, yw barddoniaeth elegeiog a ddefnyddir gan amlaf mewn galargerddi'r Groegwyr a Rhufeiniaid hynafol.
Barddoniaeth Hen Roeg
[golygu | golygu cod]Gellir olrhain y mesur elegeiog yn ôl i gyfnod Archäig gwareiddiad Groeg yr Henfyd. Erbyn canol y 7g CC, roedd beirdd yn cyfansoddi drwy'r cyfrwng elegeiog ar naill ochr y Môr Aegeaidd, yn eu plith Archilochus, Callinus o Effesws, a Tyrtaeus. Bu barddoniaeth elegeiog ar ei hanterth hyd at ddiwedd y 5g CC, a ambell fardd yn defnyddio'r mesur hwnnw a dim arall. Defnyddiwyd i gyfansoddi galargerddi (elegos) yn ogystal ag epigramau. Enghraifft o farddoniaeth lafar oedd yr elegos, i'w canu i gynulleidfa ar achlysuron cymdeithasol. Arysgrifau i nodi gwybodaeth oedd epigramau yn y cyfnod Archäig, a ysgrifennwyd ar gerrig beddau, er enghraifft. Wedi'r 4g CC, ymddengys yr epigram elegeiog yn fwyfwy fel ffurf lenyddol.
Priodolir rhyw 1,400 o linellau elegeiog, sydd yn dyddio o'r 7g CC i ddechrau'r 5g CC, i Theognis. Nid gwaith un bardd yn unig yw traddodiad Theognis, er mae'n ddigon tebyg i ddyn o Megara o'r enw hwnnw a flodeuai yn y 6g CC gyfrannu at y corff hwn.