Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon
UEFA | |
---|---|
[[File:|150px|Association crest]] | |
Sefydlwyd | 1921 |
Aelod cywllt o FIFA | 1923 |
Aelod cywllt o UEFA | 1954 |
Llywydd | Paddy McCaul |
Gwefan | fai.ie |
Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon yn Saesneg, Football Association of Ireland (FAI; Irish: Cumann Peile na hÉireann) yw corff llywodraethol pêl-droed yng Ngweriniaeth Iwerddon. Ni ddylid ei cham-gymryd am y Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon yr Irish Football Association sef, corff llywodraethol pêl-droed yng Ngogledd Iwerddon.
Trefniaethaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r Gymdeithas yn gyfrifol am weinyddu pêl-droed (byd-eang, nid pêl-droed Wyddelig) yn y Weriniaeth gan gynnwys Tîm pêl-droed cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon a Uwch Gynghrair Gweriniaeth Iwerddon (y 'League of Ireland') a'r cynghreiriau is. Ceir cymdeithasau sy'n ddarostynegied a rhan o'r Gymdeithas:
- Cymdeithasau pêl-droed taleithiol: Leinster, Munster, Connacht ac Ulster (3 o 9 sir draddodiadol y dalaith, y 6 arall yng Ngogledd Iwerddon)
- Cymdeithasau arwahâ ar gyfer ysgolion, prifysgolion a cholegau
- Cynghreiriau Ieuenctid
- Menywod yr FAI
- Dyfarnwyr
- Lluoedd Arfog
- Tîm bechgyn ysgol Iwerddon
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd yr FAI ym mis Medi 1921 yn Nulyn yn dilyn Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon. Haws meddwl amdanno fel rhwyg oddi ar yr IFA (Irish Football Association), sef y corff cenedlaethol, holl ynys Iwerddon a sefydlwyd yn 1880 ac a barhaodd fel corff a thîm 'cenedlaethol' Gogledd Iwerddon.
Ymrannu
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd yr IFA yn Belffast ac mae angen cofio fod pêl-droed wedi bod yn gryfach yng Ngogledd Iwerddon ac ymysg Protestaniaid nac yn y De. Roedd hyn yn rannol oherwydd gwaharddiad y cymdeithas Campau Gwyddelig, y GAA (gemau hyrli a phêl-droed Gwyddelig ar i'w haelodau gymryd rhan neu wylio 'gemau tramor'. Teimlau aelodau Cymdeithas Bêl-droed Leinster (talaith Dulyn) bod gogwydd rhy drwm tuag at ardal Belffast a diffyg buddsoddi yn y gêm mewn rhannau eraill o'r ynys. Arweiniodd y Rhyfel Annibyniaeth at densiwn o fewn y Gymdeithas holl-ynys, gyda'r mynychwyr o'r gogledd yn dueddol o fod yn Unoliaethwyr ac o'r de yn genedlaetholwyr. Yn y pen-draw, arweinodd penderfyniad yr IFA i chwarae ail-gymal gêm ffeinal Cwpan Iwerddon (unedig ar y pryd) rhwng tîm gogleddol Glenavon yn erbyn Shelbourne (Dulyn) yn Belffast yn hytrach na Dulyn, fel y buasai confensiwn wedi awgrymu, fel y weithred olaf a arweiniodd at y rhwyg.[1]
Ni arweiniodd y rhwyg o fewn y gymdeithas bêl-droed IFA i'r un rhwyg mewn gemau eraill fel rygbi lle ceir un tîm o hyd i'r holl ynys.
I gwychwyn, hawliau'r ddwy gymdeithas, yr FAI (de) a'r IFA (gogledd) eu bod yn cynrychioli'r holl ynys. Bu ymgpiprys am hyn am beth amser.
Derbyniwyd yr IFA fel aelod o FIFA yn 1923 o dan yr enw FAIFS (Football Association of the Irish Free State) yn seiliedig ar diriogaeth 26 sir y Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (y 'Free State'). Dyma'r drefn a dderbyniwyd, er bod dinas Derry yn chwarae yn y De ers 1985 yn dilyn cytundeb gyda FIFA a'r IFA.
Ceisiwyr ail-uno'r ddwy gymdeithas. Trefnodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr gyfarfod yn Lerpwl yn 1924 i geisio cymodi. Bu bron i'r ddwy ochr ddod at drefniadaeth ffederal ond mynodd yr IFA (gogledd) ar fod yn gyfrifol am y cadeirydd ar bwyllgor dewis y tîm ryngwladol. Cafwyd cyfarfod arall yn 1932 ond methodd hon yn dilyn yr FAIFS (Gweriniaeth Rydd, De) ar un o'r ddau le fel cynrychiolwyr ar Fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (International Football Association Board) - dyma'r corff holl-bwysig sy'n gyfrifol am reolau'r gêm yn fyd-eang, er mai cynrychiolwyr o Gymru, Lloegr, yr Alban a FIFA yw'r aelodau.[2] Cafwyd hefyd ymdrechion eraill rhwng 1973 a 1980 yn ystod blynyddoedd gwaethaf y 'Trafferthion' yng ngogledd Iwerddon.[3]
Crynodeb
[golygu | golygu cod]- 1880 – Sefydlu'r IFA yn Belfast, cynrychioli Iwerddon oll, tîm ("Iwerddon")
- 1921 – Sefydlu'r FAI yn Nulyn, dewis chwaraewyr o Dde Iwerddon ("Gwladwriaeth Rydd Iwerddon")
- 1936 – Yr FAI yn dechrau dewid chwaraeon o'r Gogledd ("Iwerddon"/"Éire")
- 1946 – Yr FAI yn stopio dewis chwaraewyr o Ogledd Iwerddon ("Gweriniaeth Iwerddon" ers 1954)
- 1950 – Yr IFA yn stopio dewis chwaraewyr o'r De ("Gogledd Iwerddon" ers 1954)
Felly,
- IFA (heddiw Gogledd Iwerddon) cynrychioli Iwerddon oll rhwng 1880–1950
- FAI (heddiw Gweriniaeth Iwerddon) yn cynrychioli Iwerddon oll rhwng 1936–1946
Cystadlaethau
[golygu | golygu cod]Mae'r FAI yn gyfrifol a gynnal cystadlaethau pêl-droed yn y Weriniaeth. Sefydlwyd Cynghrair Iwerddon, y 'League of Ireland' yn 1921, dri mis cyn sefydlu'r Gymdeithas bêl-droed ei hun. Sefydlwyd yr FAI Cup yn fuan wedyn, a rhwng 1923 at 1936 fe'i gelwid yn 'The Free State Cup'. Shamrock Rovers sy'n dal y record am y mwyafrif o fuddugoliaethaeth - 24. Sefydlwyd Cwpan Cynghrair Iwerddon (League of Ireland Cup) yn 1974. Ceir hefyd The President's Cup, sef cwpan mewn teyrnged i Arlywydd Iwerddon a chwareir rhwng enillydd Cwpan Iwerddon ac enillydd Cynghrair Iwerddon.
Bu hefyd sawl ymdrech ar greu cystadleuaeth rhwng timau o'r Werinaieth a Gogledd Iwerddon sef y Setanta Cup a bu'r FAI yn cydweithio gyda'r IFA ar hyn.
Ceir cystadlaethau eraill yn ôl oedran a'r FAI sy'n gyfrifol am dîm Iwerddon yn y Gemau Olympaidd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol yr FAI
- Gweriniaeth Iwerddon ar wefan UEFA
- Gweriniaeth Iwerddon ar wefan FIFA Archifwyd 2018-05-14 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Garnham, Neal (2004). Association Football and society in pre-partition Ireland. Belfast: Ulster Historical Foundation. ISBN 1-903688-34-5. Chapter 6: "The game 1914-24: decline and division"
- ↑ Ryan, Sean (1997). The Boys in Green: the FAI international story. Edinburgh: Mainstream Publishing. ISBN 1-85158-939-2. pp. 23-5
- ↑ Moore, Cormac (2015). The Irish Soccer Split. Cork University Press. ISBN 9781782051527. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-09. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)