Keith Baxter
Keith Baxter | |
---|---|
Ganwyd | 29 Ebrill 1933 Casnewydd |
Bu farw | 24 Medi 2023 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Gwobr/au | Gwobr y 'Theatre World' |
Actor a chyfarwyddwr theatr, ffilm a theledu Cymreig oedd Keith Stanley Baxter-Wright (29 Ebrill 1933 – 24 Medi 2023), yn fwyaf adnabyddus fel Keith Baxter.[1]
Cafodd Baxter ei eni yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, yn fab i Stanley Baxter-Wright, capten môr y Llynges Fasnachol, a'i wraig Emily Baxter (née Howell). [2] Buont yn byw am gyfnod yn Romilly Road, y Barri, Morgannwg . Addysgwyd Baxter yn Ysgol Uwchradd Casnewydd ac Ysgol Ramadeg y Barri. Astudiodd yn Academi Frenhinol Celfyddydau Dramatig , Llundain, lle daeth yn ffrind ei chyd-ddisgybl, Alan Bates.[1]
Ym 1965, chwaraeodd Baxter Tywysog Hal mewn ffilm Chimes at Midnight, gan Orson Welles. Mae credydau ffilm ychwanegol yn cynnwys Ash Wednesday (1973; gydag Elizabeth Taylor ), Golden Rendezvous (1977), a Killing Time (1998).
Priododd Baxter â Brian Holden yn 2016.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Michael Coveney (22 Hydref 2023). "Keith Baxter obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Keith Baxter, much-loved actor and theatre man who played Prince Hal to Orson Welles's Falstaff – obituary" (yn Saesneg). The Telegraph. 13 Hydref 2023. Cyrchwyd 13 October 2023.