Olympias
Olympias | |
---|---|
Ganwyd | c. 375 CC Passaron |
Bu farw | 316 CC o llabyddiad Pydna |
Dinasyddiaeth | Macedon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Tad | Neoptolemus I of Epirus |
Priod | Philip II, brenin Macedon |
Plant | Alecsander Fawr, Cleopatra of Macedon |
Llinach | list of the kings of Ancient Epirus |
Tywysoges o Epirus oedd Olympias (Hen Roeg: Ολυμπιάς), enw genedigol Polyxena, yn ddiweddarach Myrtale (c. 376 CC - 316 CC). Roedd yn ferch i Neoptolemus I, brenin Epirus. Daeth yn bedwaredd gwraig Philip II, brenin Macedon yn 359 CC, a ganed Alecsander Fawr iddynt yn 356 CC. Yn ddiweddarach, cawsant ferch, Cleopatra.
Yn 337 CC, ysgarodd Philip Olympias i briodi Cleopatra Eurydice, ac aeth Olympias ac Alecsander i Epirus am gyfnod. Yn ddiweddarch dychwelasant i Pella a gwnaeth Olympias heddwch a Philip; ond pan lofruddiwyd Philip, credai rhai fod gan Olympias ran yn y cynllwyn. Lladdodd Olympias fab Philip a Cleopatra Eurydice, Caranus, a gorfododd Cleopatra Eurydice i'w chrogi ei hun.
Roedd ganddi ddylanwad mawr ym Macedon yn ystod teyrnasiad ei mab, Alecsander. Wedi marwolaeth Alecsander, aeth i Epirus, a chefnogodd Alexander IV Aegus, mab Alecsander Fawr. Defnyddiodd fyddin o Epirus i yrru Cassander o Facedon a chymeryd grym yno ei hun. Dienyddiodd Philip Arrhidaeus a gorfodi ei wraig Eurydice i'w chrogi ei hun.
Dychwelodd Cassander o'r Peloponnesos, a gwarchae ar Olympias yn Pydna. Wedi i'r ddinas ildio, dienyddiwyd Olympias; dywedir i Cassander wrthod gwasanaeth claddu iddi.