Rhodiwr (actor)
Mewn drama, mae rhodiwr yn berfformiwr mewn ffilm, rhaglen deledu, neu sioe ar y llwyfan sydd heb ran neu bwrpas ar wahân i ymddangos yn y cefndir, er enghraifft mewn cynulleidfa neu olygfa o stryd brysur. Daw'r enw o'r ffaith maent fel arfer yn rhodio o gwmpas y set. Nid ydynt llawer mwy na chelfi byw sy'n cael eu defnyddio i roi syniad o realaeth i'r olygfa lle ymddangosir. Fel arfer nid oes angen unrhyw neu lawer o brofiad actio gan rodwyr, hurir yn llu gydag ychydig iawn o ffurfioldeb, a chyflogir gan amlaf ar dâl isel. Yn aml mae ffilmiau rhyfel ac epigau yn cyflogi rhodwyr ar raddfeydd eang: mae rhai ffilmiau wedi cynnwys cannoedd neu hyd yn oed miloedd o rodwyr cyflogedig. Mae'r comedi sefyllfa Extras, a ysgrifennwyd gan Ricky Gervais a Stephen Merchant, yn ymwneud â dau rodiwr.