Wednesday Addams
Gwedd
Mae Wednesday Friday Addams yn aelod o'r teulu Addams ffuglennol, a grëwyd gan y cartŵnydd Charles Addams ar gyfer "The New Yorker".
Yng nghartŵnau Charles Addams, nid oedd enw gan Wednesday ac aelodau eraill o'r teulu. Pan addaswyd y cartŵnau ar gyfer y gyfres deledu The Addams Family, gofynnwyd iddo ddarparu enwau ar gyfer y cymeriadau. Penderfynodd ar yr enw "Wednesday" yn seiliedig ar y llinell o'r rhigwm, "Wednesday's child is full of woe". Wednesday Addams yw plentyn ieuengaf Gomez Addams a Morticia Addams.
Yn y ffilmiau The Addams Family a'r ffilm ddilynol Addams Family Values, portreadir cymeriad Wednesday Addams gan Christina Ricci.