Wicipedia:Consensws
Mae consensws yn un o ystod o bolisïau sy'n ymwneud â sut y mae golygwyr yn cydweithio. Gan amlaf, bydd golygwyr yn dod i gytundeb fel rhan naturiol ac annatod o olygu; yn gyffredinol, bydd rhywun yn newid neu'n ychwanegu at dudalen, ac yna bydd pawb sy'n darllen y dudalen honno yn medru gadael y dudalen ar ei newydd wedd neu gallant ei newid. Pan nad yw golygwyr yn medru dod i gonsensws wrth olygu, gellir mynd a'r broses i gyrraedd cytundeb ymhellach drwy ddefnyddio'r tudalennau sgwrs priodol.
Beth yw consensws
[golygu cod]Proses
[golygu cod]Dylai pob trafodaethau fod yn ymgais i argyhoeddi eraill gan ddefnyddio rhesymau bob tro. Os yw trafodaeth yn datblygu o fod yn ornest weiddi gyda chyfrannwr ar begynau gwahanol i'w gilydd, yna ni ellir dod i gonsensws a bydd safon y dudalen yn dioddef.
Lefel y consensws
[golygu cod]Ni all consensws ymysg grŵp bychan o olygwyr, mewn man penodol ar amser penodol, danseilio consensws cymunedol ar raddfa ehangach. Er enghraifft, ni all cyfranwyr mewn WiciBroject benderfynu fod rhyw bolisi a dderbynnir yn gyffredinol yn amherthnasol i erthygl benodol, oni bai eu bod yn medru argyhoeddi'r gymuned ehangach fod gweithred o'r fath yn gywir.
O ran polisïau a chanllawiau, mae Wicipedia yn disgwyl cyfraniadau a chonsensws o safon uwch nag ar dudalennau eraill. Weithiau gall dweud dim byd gael ei gymryd fel bod golygwyr yn cytuno dim ond os yw mater wedi cael ei ddwyn i sylw'r gymuned yn ddigonol.
Gall consensws newid
[golygu cod]Nid yw consensws yn ddigyfnewid. Gellir cwestiynu penderfyniadau'r gorffennol ac nid yw un unrhyw gonsensws yn gorfod bod felly am byth. Rhaid derbyn felly fod y fath newidiadau yn ddigon rhesymol yn aml. O ganlyniad, nid yw "yn ôl y consensws" ac "yn groes i'r consensws" yn rhesymeg ddilys dros dderbyn neu wrthod mathau eraill o gynigion neu weithredu.
Erys Wicipedia yn hyblyg am fod pobl newydd yn medru dod â syniadau ffres, wrth dyfu efallai y bydd anghenion newydd yn amlygu eu hunain, gall bobl newid eu meddyliau dros amser wrth i amgylchiadau newid, ac efallai y down ni o hyd i well ffordd o wneud rhywbeth.
Efallai bydd grŵp cynrychioladol o bobl yn dod i benderfyniad ar ran y gymuned yn ei chyfanrwydd. Yn amlach na pheidio, mae pobl yn nodi newidiadau i drefniadaeth bresennol rhyw bryd arall ar ôl y ffaith. Ond yn yr holl achosion hyn, nid yw unrhyw benderfyniad yn barhaol. Mae'r byd yn newid, a rhaid i'r wici newid gydag ef. Mae'n rhesymol, ac yn wir yn bwysig i wneud newidiadau i bethau'n hwyrach, hyd yn oed os oedd y newid diwethaf wedi cael ei wneud flynyddoedd yn ôl.
Eithriadau
[golygu cod]Ceir rhai eithriadau sy'n disodli penderfyniadau consensws ar dudalen.
- Mae gan ddatganiadau gan Jimbo Wales, Bwrdd Sefydliad Wicifryngau, neu'r Datblygwyr, yn enwedig o ran materion hawlfraint, cyfreithiol, neu lwyth y serfiwr, statws polisi.
- Mae gweithredoedd swyddfa tu allan o bolisi'r Wicipedia Cymraeg.
- Gan amlaf, nid yw rhai gweithredoedd fel gwaredu tor-hawlfraint a mathau o ddeunydd am bobl byw, yn galw am drafodaeth neu gonsensws, yn bennaf oherwydd y siawns o ddifrod gwirioneddol a geir ynddynt.
Polisïau a chanllawiau
[golygu cod]Mae polisïau a chanllawiau'n adlewyrchu consensws sydd wedi'i sefydlu eisoes, ac mae eu cysondeb a'u sefydlogrwydd yn bwysig os yw'r gymuned i fedru ymddiried ynddynt. O ganlyniad felly, disgwylir i olygwyr gynnig newidiadau sylweddol ar y dudalen sgwrs cyn gwneud unrhyw newidiadau. Peidiwch â gwneud pethau mawr yn rhy sydyn; mae'r gymuned yn fwy tebygol o dderbyn eich golygiadau os ydych yn eu gwneud yn araf ac yn ymdrechu i gynnwys y gymuned yn y broses.
Adeiladu consensws
[golygu cod]Daw consensws o gytundeb ymysg pawb sy'n rhan o drafodaeth. Gall hyn ddigwydd drwy drafodaethau, golygu, ac yn amlach na pheidio drwy gyfuniad o'r ddau. Dim ond ymysg golygwyr rhesymegol sy'n cymryd ewyllys da yn ganiataol ac yn cydweithio mewn ffordd gwrtais y gellir cyrraedd consensws. Er mwyn cyrraedd consensws dylid talu sylw at arddull ddiduedd a ffeithiau gwiriadwy er mwyn dod i gyfaddawd y mae pawb yn gytûn gyda.
Gall sawl proses ddenu sylw golygwyr er mwyn dod i gonsensws:
- Mae Trydedd Farn yn galw ar drydydd person diduedd er mwyn datrys yr anghydfod rhwng dau olygydd
- Mae'r Caffi yn gyfle i annog mwy o gyfranwyr i'r drafodaeth
- Mae Datrys anghydfodau yn cynnig opsiynau ychwanegol
Ceisiwch beidio â denu gormod o olygwyr yr un pryd.
Er mwyn sicrhau treuliadwyedd, ni ellir dod i gonsensws heblaw ag ar dudalennau sgwrs Wicipedia. Ni chymrir trafodaethau "Oddi-ar wici", megis rheiny a geir ar wefannau eraill, ar fforymau'r we neu ar IRC, i mewn i ystyriaeth wrth ddod i gonsensws.
Consensws o ganlyniad i'r broses olygu
[golygu cod]Mae rhywun yn newid tudalen (unrhyw dudalen ac eithrio tudalen sgwrs), yna mae gan bawb sy'n darllen y dudalen y cyfle i'w adael fel y mae, neu ei newid. Pan fo dau olygydd neu fwy yn methu dod i gytundeb drwy olygu, chwilir am gyfaddawd ar dudalennau sgwrs.
Dyma'r math symlaf o gonsensws, a chaiff ei ddefnyddio wrth olygu o ddydd i ddydd ar y mwyafrif llethol o dudalennau Wicipedia (heblaw am dudalennau sgwrs). Dechreua'r broses gyda golygydd yn newid erthygl neu dudalen arall. Mewn ymateb i hyn, mae gan ddarllenwyr y dudalen honno dri opsiwn:
- derbyn y newid,
- ceisio gwella'r newid, neu
- wrthdroi'r newid.
Os yw'ch newidiadau wedi cael eu golygu neu eu dileu, efallai yr hoffech geisio gwella arnynt. Os nad yw golygwyr eraill yn derbyn eich newidiadau'n syth, meddyliwch am newid rhesymol a allai integreiddio'ch syniadau gyda syniadau golygwyr eraill, a gwnewch olygiad. Gallwch drafod y newidiadau ar y tudalennau sgwrs, mewn crynodeb golygu, neu fel nodyn i eraill ar dudalen sgwrs defnyddiwr neu dudalennau eraill a ddarllenir yn aml, fel y Caffi.
Gan amlaf, bydd erthyglau yn mynd trwy broses o'r math hwn droeon cyn y cytunir ar gyfaddawd er mwyn creu cynnyrch diduedd a darllenadwy.
Os yw golygwyr eraill yn derbyn eich newidiadau, yna mae'r derbyniad tawel hwn, yn ei hun yn brawf fod consensws ynglŷn â'ch golygiad ar y pryd. Nid yw consensws yn golygu fod angen i chi gael "caniatâd" ymlaen llaw cyn gwneud newidiadau nac ychwaith fod y ffaith fod eich newidiadau wedi cael eu derbyn yn golygu y bydd eich newidiadau'n cael eu cofnodi'n ffurfiol. Cymrir yn ganiataol fod golygiadau na fydd yn cael eu newid yn derbyn consensws nes bod rhywun yn eu cwestiynu. O ganlyniad, ni ddylech gael gwared â newid ar sail nad oes cofnod ffurfiol yn dynodi fod consensws ar ei gyfer; yn hytrach, dylech gynnig rheswm yn seiliedig ar bolisi neu synnwyr cyffredin dros gwestiynu'r newid.
Mae crynodebau golygu'n ddefnyddiol, a dylent gynnwys crynodeb o'r newid a wnaed i dudalen wrth olygu, neu esboniad o pam fod y golygydd wedi gwneud y newid. Mae crynodeb byr yn well na dim crynodeb o gwbl. Os nad yw'r rheswm dros olygiad ar dudalen na sydd yn dudalen sgwrs yn glir, mae golygwyr yn fwy tebygol o'i wrthdroi, yn enwedig os yw rhywun wedi mewnosod neu wedi dileu deunydd. Er mwyn rhoi rheswm manylach, defnyddiwch y dudalen sgwrs a rhowch grynodeb o "Gweler Sgwrs" yn y crynodeb golygu.
Mae brwydrau golygu, megis ail-osod yr un cynnwys ar y dudalen tra bod golygwyr eraill yn ei wrthod yn barhaus, yn arwain at ddiogelu'r dudalen a'ch cyfrif yn cael ei flocio yn hytrach na gwelliannau i'r dudalen.
Adeiladu consensws ar dudalennau sgwrs
[golygu cod]Ewch amdani wrth olygu; gallwch ddefnyddio'r dudalen sgwrs i drafod gwelliannau i'r dudalen na sydd yn dudalen sgwrs, ac i ffurfio consensws ynglŷn â golygu'r dudalen. Mae'r cylch consensws (gweler y diagram) yn thema ganolog ar Wicipedia. Mae Wicipedia'n disgwyl newidiadau i bolisïau a chanllawiau er mwyn llwyddo i gael mwy o gyfraniadau a chonsensws na thudalennau eraill. Mewn achosion pan fod dod i gyfaddawd yn anodd, efallai bydd angen i olygwyr annibynnol a phrofiadol ymuno â'r drafodaeth. Os yw brwydrau golygu neu olygu amharus yn tarfu ar olygu tudalen, neu os yw consensws yn amhosib, mae datrysiad anghydfodau ffurfiol ar gael.