Francis Poulenc
Cyfansoddwr o Ffrainc oedd Francis Poulenc (7 Ionawr 1899 – 30 Ionawr 1963) sy'n nodedig fel un o Les Six.
Francis Poulenc | |
---|---|
Ganwyd | Francis Jean Marcel Poulenc 7 Ionawr 1899 Paris |
Bu farw | 30 Ionawr 1963 o trawiad ar y galon Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, pianydd |
Adnabyddus am | Dialogues of the Carmelites, La voix humaine, Les biches, Concert champêtre, Organ Concerto, Flute Sonata, Concerto for Two Pianos and Orchestra, Gloria, Stabat Mater, Figure humaine |
Arddull | opera, cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth grefyddol, cerddoriaeth gorawl |
Mudiad | modernism, cerddoriaeth glasurol |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur |
Bywgraffiad
golyguGanwyd ym Mharis i deulu cefnog yn y diwydiant fferyllol. Dysgodd elfennau cerddoriaeth oddi wrth ei fam, a dechreuodd wersi piano ffurfiol yn 16 oed gyda'r pianydd Catalwnaidd Ricardo Viñes. Fel arall, cyfansoddwr hunanddysgedig oedd Poulenc. Daeth i sylw Erik Satie, beirniad chwaeth Paris, ac ymunodd â Les Nouveaux Jeunes, carfan o gyfansoddwyr modernaidd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mewn cyfeiriad at "y Pump", cyfansoddwyr pwysicaf Rwsia'r 19g, galwai'r Nouveaux Jeunes yn Le Groupe de Six gan y beirniad Henri Collet. Ynghyd â Poulenc, cyfansoddwyr Les Six oedd Georges Auric, Louis Durey, Arthur Honegger, Darius Milhaud, a Germaine Tailleferre.
Gwasanaethodd Poulenc ym Myddin Ffrainc o 1918 i 1921.
Bu farw ym Mharis yn 64 oed.
Rhestr o'i weithiau
golyguGweithiau dramataidd
golyguOperâu
golygu- Les Mamelles de Tirésias, opéra-bouffe (1944; Paris, 3 Mehefin 1947).
- Dialogues des Carmélites, opera grefyddol (1953–56; Milan, 26 Ionawr 1957).
- La Voix humaine, monodrama ar gyfer soprano (1958; Paris, 6 Chwefror 1959).
Bales
golygu- La Baigneuse de Trouville and Discours de Général, 2 symudiad ar gyfer y bale ffars Les Mariés de la Tour Eiffel (Paris, 18 Mehefin 1921; cyfansoddwyd y symudiadau eraill gan Auric, Honegger, Milhaud, a Tailleferre).
- Les Biches, gyda chôr (1923; Monte Carlo, 6 Ionawr 1924).
- Pastourelle, 9fed symudiad ar gyfer cyd-fale o 11 o symudiadau o'r enw L’Eventail de Jeanne (1927; perfformiad cyntaf yr addasiad cerddorfaol, Paris, March 4, 1929; symudiadau gan Roussel, Ravel, Ibert, Milhaud et al.).
- Aubade, concerto dawnsluniol ar gyfer piano ac 18 o offerynnau (perfformiad preifat, Paris, 18 Mehefin 1929; perfformiad cyhoeddus, Llundain, 19 Rhagfyr 1929).
- Les Animaux modèles (1940–41; Paris, 8 Awst 1942).
Cerddoriaeth gerddorfaol
golygu- Concert champêtre ar gyfer harpsicord neu biano a cherddorfa (1927–28; Paris, 3 Mai 1929).
- Concerto ar gyfer 2 biano a cherddorfa (Fenis, 5 Medi 1932).
- 2 marches et un intermède ar gyfer cerddorfa siambr (Paris, 1937).
- Concerto ar gyfer organ, llinynnau, a thympan (1938; perfformiad preifat, Paris, 21 Mehefin 1939; perfformiad cyhoeddus, Paris, 10 Mehefin 1941).
- Sinfonietta (1947; Llundain, 24 Hydref 1948).
- Concerto piano (1949; Boston, 6 Ionawr 1950).
- Matelote provençale, symudiad o gywaith gan 7 cyfansoddwr, La Guirlande de Campra (1952).
- Bucolique: Variations sur la nom de Marguerite Long (1954; symudiad o gywaith gan 8 cyfansoddwr).
Cerddoriaeth siambr
golygu- Sonata ar gyfer 2 glarinét (1918; adolygwyd 1945).
- Sonata ar gyfer clarinét a basŵn (1922).
- Sonata ar gyfer corn, trwmped, a thrombôn (1922; adolygwyd 1945).
- Triawd ar gyfer obo, basŵn, a phiano (1926).
- Chwechawd ar gyfer piano a phumawd chwyth (1930–32; adolygwyd 1939).
- Suite française ar gyfer 9 offeryn chwyth, offerynnau taro, a harpsicord (1935).
- Sonata ffidl (1942–43; adolygwyd 1949).
- Sonata soddgrwth (1948).
- Sonata ffliwt (1956).
- Elegie, er cof am Dennis Brain, ar gyfer corn a phiano (1957).
- Sarabande ar gyfer gitâr (1960).
- Sonata clarinét (1962).
- Sonata obo (1962).
Piano
golygu- Sonata ar gyfer piano, 4 llaw (1918).
- 3 mouvements perpétuels (1918).
- Valse (1919).
- Suite in C (1920).
- 6 impromptus (1920).
- Promenades (1921).
- Napoli, cyfres deiran (1921–25).
- 2 novelettes (1928).
- 3 pièces (1928).
- Pièce brève sur la nom d’Albert Roussel (1929).
- 8 nocturnes (1929–38).
- 15 improvisations (1932–59).
- Villageoises (1933).
- Feuillets d’album (1933).
- LesSoirées de Nazelles (1930–36).
- Mélancolie (1940).
- Intermezzo (1943).
- L’Embarquement pour Cythère ar gyfer 2 biano (1951).
- Thème varié (1951).
- Sonata ar gyfer 2 biano (1952–53).
- Elégie ar gyfer 2 biano (1959).
- Novelette sur un thème de Manuel de Falla (1959).
Cerddoriaeth leisiol
golyguCanu côr
golygu- Chanson à boire ar gyfer côr meibion (1922).
- 7 chansons ar gyfer côr (1936).
- Litanies à la vièrge noire ar gyfer côr merched ac organ (1936).
- Offeren mewn G ar gyfer côr (1937; Paris, Mai 1938).
- Sécheresses, cantawd ar gyfer côr a cherddorfa, ar ôl Edward James (1937; Paris, 1938).
- 4 motets pour un temps de penitence ar gyfer côr (1938–39).
- Exultate Deo ar gyfer côr (1941).
- Salve regina ar gyfer côr (1941).
- Figure humaine, cantawd ar gyfer côr dwbl (1943).
- Un Soir de neige, cantawd siambr ar gyfer 6 llais (1944).
- 2 lyfr o ganeuon Ffrangeg traddodiadol, trefnwyd ar gyfer côr (1945).
- 4 petites prières de Saint François d’Assise ar gyfer côr meibion (1948).
- Stabat Mater ar gyfer soprano, côr, a cherddorfa (1950; Strasbwrg, 13 Mehefin 1951).
- 4 motets pour le temps de Noël ar gyfer côr (1951–52).
- Ave verum corpus ar gyfer côr merched (1952).
- Laudes de Saint Antoine de Padoue ar gyfer côr meibion (1957–59).
- Gloria ar gyfer soprano, côr, a cherddorfa (1959; Boston, 20 Ionawr 1961).
- 7 répons des ténèbres ar gyfer bachgen soprano, côr dynion a bechgyn, a cherddorfa (1961; Efrog Newydd, 11 Ebrill 1963).
Llais ac offerynnau
golygu- Rapsodie nègre ar gyfer bariton, pedwarawd llinynnol, ffliwt, clarinét, a phiano (Paris, 11 Rhagfyr 1917; adolygwyd 1933).
- Le Bestiaire ar gyfer mezzo-soprano, pedwarawd llinynnol, ffliwt, clarinét, a basŵn, ar ôl Apollinaire (1918–19).
- Cocardes ar gyfer llais, ffidl, cornet, trombôn, drwm bas, a thriongl, ar ôl Cocteau (1919).
- Le Bal masque ar gyfer llais, obo, clarinét, basŵn, ffidl, soddgrwth, offerynnau taro, a phiano, ar ôl Max Jacob (1932).
- La Dame de Monte Carlo, monolog ar gyfer soprano a cherddorfa (Paris, 5 Rhagfyr 1961).
Llais a phiano
golygu- Histoire de Babar le petit éléphant (1940–45; trefnwyd ar gyfer cerddorfa gan Jean Francaix, 1962).
Cylchoedd o ganeuon
golygu- Le Bestiaire(1919; addasiad).
- Cocardes (1919; addasiad).
- Poèmes de Ronsard (1924–25; trefnwyd ar gyfer cerddorfa yn ddiweddarach).
- Chansons gaillardes (1925–26).
- Alawon chantés (1927–28).
- 8 chansons polonaises (1934).
- 4 chansons pour enfants (1934).
- 5 poèmes, ar ôl Eluard (1935).
- Tel jour, telle nuit (1936–37).
- 3 poèmes, ar ôl de Vilmorin (1937).
- 2 poèmes, ar ôl Apollinaire (1938).
- Miroirs brulants (1938–39).
- Fiançailles pour rire (1939).
- Banalités (1940).
- Chansons villageoises (1942; trefnwyd ar gyfer cerddorfa 1943).
- Métamorphoses(1943).
- 3 chansons, ar ôl Garcia Lorca (1947).
- Calligrammes (1948).
- La Fraicheur et le feu (1950).
- Parisiana (1954).
- Le Travail du peintre (1956).
- 2 mélodies (1956).
- La Courte Paille (1960).
Caneuon
golygu- Toréador (1918; adolygwyd 1932).
- Vocalise (1927).
- Epitaphe (1930).
- A sa guitare, ar ôl Ronsard (1935).
- Montparnasse (1941–45).
- Hyde Park (1945).
- Paul et Virginie (1946).
- Le Disparu (1947).
- Mazurka(1949).
- Rosemonde (1954).
- Dernier poème (1956).
- Une Chanson de porcerginie (1958).