Charles Darwin
Charles Darwin | |
---|---|
Ganwyd | Charles Robert Darwin 12 Chwefror 1809 The Mount, Amwythig |
Bu farw | 19 Ebrill 1882 Down House, Amwythig |
Man preswyl | The Mount |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Addysg | Baglor yn y Celfyddydau, Meistr yn y Celfyddydau, Legum Doctor |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | daearegwr, fforiwr, awdur teithlyfrau, etholegydd, naturiaethydd, athronydd, llenor, botanegydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | On the Tendency of Species to form Varieties; and on the Perpetuation of Varieties and Species by Natural Means of Selection, On the Origin of Species, The Voyage of the Beagle, The Descent of Man, and Selection in Relation to Sex, The Expression of the Emotions in Man and Animals, Insectivorous Plants, The Power of Movement in Plants, The Formation of Vegetable Mould through the Action of Worms |
Prif ddylanwad | Thomas Malthus, John Frederick William Herschel, Herbert Spencer, Georges-Louis Leclerc, Comte de Buffon, David Hume, Johann Wolfgang von Goethe, Alexander von Humboldt, Charles Lyell, Jean-Baptiste de Lamarck |
Tad | Robert Darwin |
Mam | Susannah Wedgwood |
Priod | Emma Darwin |
Plant | Anne Darwin, Francis Darwin, William Erasmus Darwin, Henrietta Darwin, George Darwin, Leonard Darwin, Horace Darwin, Charles Waring Darwin, Elizabeth Darwin, Mary Eleanor Darwin |
Perthnasau | Ursula Mommens, Josiah Wedgwood II, Emma Darwin, Robin Darwin, Sarah Darwin |
Gwobr/au | Medal Brenhinol, Medal Copley, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd Cymdeithas y Linnean, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Baly Medal, Cymrawd o Gymdeithas Ddaearegol Llundain, Bressa Prize, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Leiden, Medal Wollaston, Honorary Fellow of the Royal Society Te Apārangi, Medal Darwin |
llofnod | |
Naturiaethwr o Loegr oedd Charles Robert Darwin, F.R.S. (12 Chwefror 1809 – 19 Ebrill 1882). Chwyldrôdd yr astudiaeth o hanes natur a'r cysyniad traddodiadol am natur a hanes y ddynolryw a gosododd y seiliau i ddamcaniaeth esblygiad a hefyd cynigiodd yr egwyddor o darddiad cyffredin fel canlyniad i ddetholiad naturiol. Cyflwynwyd y ddamcaniaeth i'r byd ym 1858 yn y Linnaean Society ar y cyd ag Alfred Russel Wallace ac i'r cyhoedd wedyn yn ei lyfr The Origin of Species, a gyhoeddwyd yn 1859; gwaith enwocaf Charles Darwin.
Yn Awst 1831, astudiodd greigiau Eglwyseg ger Llangollen ac yna ymweliad â Phen y Gogarth yn Llandudno, cyn mynd ymlaen i Gwm Idwal yn Eryri lle sylweddolodd (am y tro cyntaf) fod y Ddaear yn llawer iawn hŷn nag a gredwyd yr adeg honno.[1][2] Ar ei daith ddaearegol olaf i Gymru, ym 1842, fe ymwelodd â Moel Tryfan ym mhlwyf Llanwnda, lle roedd olion o waddodiad morol wedi eu darganfod ar ffurf cregin; er na chafodd hyd i fwy o'r rhain, fe ddaeth at rai casgliadau ynglŷn â ffurfiant y gwythiennau llechfaen yn yr ardal, sydd ar ongl anarferol.[3]
Teithiodd Darwin o gwmpas y byd ar fwrdd HMS Beagle ac roedd ei arsylliadau ar Ynysoedd y Galapagos yn bwysig iawn i'w ddamcaniaeth.
Teithio ar y Beagle
[golygu | golygu cod]Yn ystod ei deithiau ar y Beagle astudiodd Darwin daeareg cyfandiroedd ac ynysoedd yn ogystal â nifer o anifeiliaid, planhigion a ffosiliau. Mewn ffordd drefnus iawn, casglodd nifer enfawr o enghreifftiau nad oedd neb wedi eu hastudio o'r blaen. Rhoddodd y casgliad pwysig yr oedd wedi ei gasglu i'r Amgueddfa Brydeinig. Roedd Darwin yn un o arloeswyr ecoleg.
Yn ystod ei deithiau, aeth Darwin i'r Ynysfor Cape Verde, i Ynysoedd Falkland (Malvinas), i lannau môr De America, Ynysoedd y Galapagos, Seland Newydd ac Awstralia. Daeth yn ôl adref ar 2 Hydref, 1836, ac ar ôl hynny roedd e'n dadansoddi y sbesimenau a gasglodd, pan sylweddolodd fod ffosiliau anifeiliaid a phlanhigion o'r un ardal ddaearyddol yn debyg iawn i'w gilydd. Ei ddarganfyddiad pwysicaf oedd am grwbanod ac adar Ynysoedd y Galapagos: mae math arbennig gwahanol ohonynt ar bob ynys yn dilyn eu golwg, eu bwyd ac ati, ond yn debyg iawn fel arall.
Yng ngwanwyn 1837 hysbyswyd ef fod adaregwyr yr Amgueddfa Brydeinig - Byd Natur wedi derbyn mai llinos oedd yr holl adar a gasglodd ar Ynysoedd y Galapagos. Hyn a thraethawd Thomas Malthus ar boblogaeth a cyhoeddwyd ym 1798 arweiniodd at ddamcaniaeth esblygiad trwy ddetholiad naturol a rhywiol. Er enghraifft datblygwyd yr holl amrwyiaeth o grwbanod yr Ynysoedd o'r un rhywogaeth trwy ymaddasu i fywyd ar ynysoedd gwahanol, yn ôl ei ddamcaniaeth.
Cyhoeddwyd llyfr am ei ddamcaniaeth, Notebook on the Transmutation of Species, sydd yn cytuno â Principles of Geology gan Syr Charles Lyell ac Essay on the Principle of Population gan Thomas Malthus sydd yn awgrymu fod adnoddau bwyd yn tueddu i gyfyngu poblogaeth i un ardal neilltuol. Sylweddolodd Darwin fod ei ddamcaniaeth yn gywir a gwnaeth brofion ar golomennod a phlanhigion yn ogystal ag ymchwil gyda bridwyr moch i gryfhau ei ddamcaniaeth.
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- R. Elwyn Hughes, Darwin, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1981)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Alfred Russel Wallace, y Cymro o Frynbuga, Sir Fynwy
- Richard Owen,
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Llun y gofeb ar gyfer ei ymweliad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-16. Cyrchwyd 2008-10-16.
- ↑ Ei hunangofiant (Saesneg), lle ceir ei stori'n llawn
- ↑ Cof y Cwmwd, erthygl ar Moel Tryfan, https://cof.uwchgwyrfai.cymru/wici/Moel_Tryfan_(mynydd)