Christopher Davies (gwleidydd)
Christopher Davies | |
---|---|
Ganwyd | 18 Awst 1967 Cwm Tawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Gwefan | https://www.chrisdavies.org.uk |
Gwleidydd Cymreig yw Christopher (Chris) Paul Davies (ganwyd 18 Awst 1967). Roedd yn Aelod Seneddol dros Brycheiniog a Maesyfed rhwng 2015 a 21 Mehefin 2019, ac yn aelod o'r Ceidwadwyr. Enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol 2015 oddi wrth Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol Roger Williams.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yng Nghwm Tawe, ac fe haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Treforus.[1]
Gyrfa Gwleidyddol
[golygu | golygu cod]Fe'i etholwyd ar Gyngor Powys yn 2012 dros ward y Clas ar Wy.
Safodd yn erbyn y Democrat Rhyddfrydol Roger Williams, oedd wedi dal y sedd ers 2001 yn Etholiad Cyffredinol 2015 ac enillodd gyda fwyafrif o 5,102. Yn Etholiad Cyffredinol 2017, cynyddodd ei fwyafrif i 8,038.
Roedd e o blaid adael yr Undeb Ewropiaidd[2].
Canlyniadau Etholiadau
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 2017: Etholaeth: Brycheiniog a Sir Faesyfed | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Christopher Davies | 20,081 | 48.6 | 7.5 | |
Democrat Rhydd. | James Gibson-Watt | 12,043 | 29.1 | +0.8 | |
Llafur | Dan Lodge | 7,335 | 17.7 | +3.0 | |
Plaid Cymru | Kate Heneghan | 1,299 | 3.1 | -1.3 | |
Plaid Annibyniaeth y DU | Peter Gilbert | 576 | 1.4 | -6.9 | |
Mwyafrif | 8,038 | 19.4 | +6.7 | ||
Y nifer a bleidleisiodd | 41,334 | +3.1 | |||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 2015: Brycheiniog a Sir Faesyfed | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Christopher Davies | 16,453 | 41.1 | +4.5 | |
Democrat Rhydd. | Roger Hugh Williams | 11,351 | 28.3 | -17.8 | |
Llafur | Matthew Dorrance | 5,904 | 14.7 | +4.2 | |
Plaid Annibyniaeth y DU | Darran Thomas | 3,338 | 8.3 | +6.1 | |
Plaid Cymru | Freddy Greaves | 1,767 | 4.4 | +1.9 | |
Gwyrdd | Chris Carmichael | 1,261 | 3.1 | +2.3 | |
Mwyafrif | 5,102 | 12.7 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 40,047 | 73.8 | +1.3 | ||
Ceidwadwyr yn disodli Democrat Rhydd. | Gogwydd |
Hawliad treuliau anghyfreithlon
[golygu | golygu cod]Ym mis Ebrill 2018, cyfeiriodd yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA)- sy'n goruchwylio treuliau ASau - Davies at Heddlu'r Metropolitan "mewn perthynas â honiad o hawliad treuliau twyllodrus a gyflwynwyd gan unigolyn".[3] Dywedodd Davies ei fod wedi gwneud "camgymeriad gonest" ar y ffurflen dreuliau a gyflwynodd am ffotograffau ar gyfer ei swyddfa etholaeth yn Llanfair-ym-muallt: roedd y camgymeriad yn cynnwys ffugio bwriadol. Cyhuddodd Davies ddwy anfoneb am £450 a £250 yn hytrach na chyflwyno'r gwir hawliad o £700 am y ffotograffau, a phriodolodd Davies yr hawliad i "fy niffyg profiad o reolau IPSA" a dywedodd nad oedd wedi gwneud dim o'i le. Ar 17 Gorffennaf 2018 cafodd ei gyfweld dan rybudd. Cafodd Davies ei holi gan yr heddlu am yr eildro ym mis Hydref 2018 ynghylch yr honiadau.
Ym mis Ionawr 2019, pasiodd yr heddlu ffeil i Wasanaeth Erlyn y Goron. Ar 21 Chwefror 2019, cyhoeddodd y CPS fod Davies wedi cael ei gyhuddo o ddau gyfrif o wneud cyfrwng ffug ac un cyfrif o ddarparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar gyfer hawliad am lwfans.[4] Plediodd yn euog i'r ddau gyfrif ar 22 Mawrth 2019 yn Llys y Goron, Southwark. Ar 23 Ebrill 2019 cafodd ei ddedfrydu i orchymyn cymunedol i gyflawni 50 awr o waith di-dâl, ynghyd â dirwy o £ 1,500. Roedd yr euogfarn yn cychwyn deiseb awtomatig yn yr etholaeth i weld os oedd yr etholwyr am iddo barhau i'w cynrychioli yn y Senedd.[5] Ar 21 Mehefin 2019, cyhoeddwyd bod 19% o bleidleiswyr wedi deisebu i adalw Davies. Gan fod hyn yn fwy na'r trothwy o 10%, datganwyd bod ei sedd yn wag a bod angen isetholiad.[6]
Cafodd Davies ei ddewis gan y Blaid Geidwadol i ail sefyll yn yr isetholiad fel ymgeisydd y blaid.[7]. Penderfynodd Plaid Cymru [8] a'r Blaid Werdd i beidio a chodi ymgeisydd i sefyll yn erbyn Davies er mwyn gwella cyfle Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol i ennill. Roedd Plaid Cymru, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Y gred oedd mae'r Rhyddfrydwyr Democrataidd oedd y blaid aros mwyaf tebygol o ennill yr etholiad.[9] Enillwyd y sedd yn yr isetholiad gan Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Roger Williams |
Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed 2015 – 2019 |
Olynydd: Jane Dodds |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-09. Cyrchwyd 2017-06-21.
- ↑ http://www.brecon-radnor.co.uk/article.cfm?id=105205&headline=Big%20hitters%20from%20left%20to%20attend%20%27Brexit:%20A%20Year%20On%27§ionIs=news&searchyear=2017[dolen farw]
- ↑ BBC Cymru Fyw 15 Ebrill 2018 Heddlu'n 'asesu' honiad am dwyll Chris Davies AS adalwyd 21 Gorffennaf 2019
- ↑ BBC Cymru Fyw 21 Chwefror 2019 Cyhuddo Chris Davies AS o hawlio treuliau ffug adalwyd 21 Gorffennaf 2019
- ↑ Golwg360 25 Ebrill 2019 Chris Davies yn wynebu deiseb i’w ddiswyddo adalwyd 21 Gorffennaf 2019
- ↑ Cyngor Powys - Hysbysiad cyhoeddus o'r ddeiseb i adalw AS Brycheiniog a Sir Faesyfed Chris Davies Archifwyd 2019-04-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Gorffennaf 2019
- ↑ Golwg 360 24 Mehefin 2019 Isetholiad: Ceidwadwyr yn dewis Chris Davies i sefyll eto adalwyd 21 Gorffennaf 2019
- ↑ Golwg360 5 Gorffennaf 2019 Is-etholiad Brycheiniog a Maesyfed: Plaid Cymru ddim yn sefyll adalwyd 21 Gorffennaf 2019
- ↑ BBC Cymru Fyw 5 Gorffennaf 2019 Chwe ymgeisydd yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed adalwyd 21 Gorffennaf 2019