Cymdeithas Bêl-droed Tsiecia
UEFA | |
---|---|
[[File:|200|Association crest]] | |
Sefydlwyd | 19 Hydref 1901 |
Aelod cywllt o FIFA | 1907 |
Aelod cywllt o UEFA | 1954 |
Llywydd | Nodyn:Ill |
Gwefan | facr.fotbal.cz/ |
Mae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon, diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir mynd yr ail gam. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 27 Rhagfyr 2024, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwy'r cyngor hwn? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. |
Cymdeithas Bêl-droed y Weriniaeth Tsiec neu Cymdeithas Bêl-droed Tsiecia (Tsieceg: Fotbalová associace České republiky; FAČR)[1], yw corff llywodraethu pêl-droed yn y Tsiecia (gelwir hefyd yn Gweriniaeth Tsiec) sydd wedi'i lleoli ym Mhrâg. Mae'n trefnu'r cystadlaethau cynghrair lefel is yn y wlad ond mae'r Uwch Gynghrair Tsiecia (1. česká fotbalová liga) broffesiynol ac Ail Gynghrair Tsiec yn cael eu trefnu'n annibynnol) a'r Cwpan Tsiec.[2][3]
Fe'i sefydlwyd ym 1901 fel Český svaz footballový (ČSF) ym Mhrâg. Y gymdeithas yw'r sefydliad ymbarél ar gyfer bron i 4,000 o glybiau gyda thua 625,000 o aelodau. Ym 1954 roedd yn un o gymdeithasau sefydlu UEFA.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae hanes cymdeithas bêl-droed Tsiecia yn dilyn hynt a helynt statws ryngwladol y Tsieciaid fel cenedl gan gynnwys cyfnod cyn annibyniaeth, cyfnod Tsiecoslofacia, ac yn fel gwladwriaeth annibynnol Tsiecia.
Hanes o dan Awstria
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y rhagflaenydd cyntaf fel Undeb Pêl-droed Bohemian ar 19 Hydref 1901 yn etholaeth Bohemia yn Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Ar 19 Hydref 1901, sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Tsiec (Tsieceg: Český svaz footballový, ČSF ) ym mwyty 'U zlaté váhy' ym Mhrâg. Yr aelodau sefydlu oedd y clybiau pêl-droed canlynol: SK Slavia, AC Sparta, SK Meteor Praha VIII, SK Union, SK Olympia Praha VII, FK Horymír, FK Malá Strana , Hradčanský SK, SK Vyšehrad , LK Česká vlajka , SK Olympiae , SK Olympiae Královské Vinohrady , AFK Karlín, SK Plzeň, FK Union Plzeň ac AC Roudnice. Y cadeirydd cyntaf oedd capten Slavia, Karel Freja. Roedd Tsiecia ar y pryd yn cael ei hadnabod fel etholaeth Bohemia ac yn ddarostyngedig i Ymerodraeth Awstria-Hwngari.
Ym 1906, derbyniwyd yr ČSF dros dro i FIFA a chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn Budapest yn erbyn Hwngari. Ym 1907, cadarnhawyd aelodaeth FIFA, ond dim ond blwyddyn yn ddiweddarach cafodd y gymdeithas ei diarddel o FIFA dan bwysau o Awstria-Hwngari, a welodd tîm genedlaethol i'r Tsieciaid fel perygl i'r Ymerodraeth a thra-arglwyddiaeth Awstria Almaenig. Efallai nad yw'n gyd-ddigwyddiad mai yn Fienna oedd cyfarfod FIFA y flwyddyn honno.[4] Ar 20 Ionawr 1912, sefydlwyd is-gymdeithas Morafia-Silesia. Ym 1916, gorfodwyd y gymdeithas i ddiddymu, ond fe'i hailsefydlwyd o dan yr un enw yn 1917.
Cyfnod Tsiecoslofacia
[golygu | golygu cod]O 1922 i 1993, yn ystod bodolaeth gweriniaeth gyntaf Tsiecoslofacia, roedd y gymdeithas yn cael ei hadnabod fel Cymdeithas Bêl-droed Tsiecoslofacia (Tsieceg: Československá associace fotbalová; ČSAF) a rheolodd dîm pêl-droed cenedlaethol Tsiecoslofacia. Ar ôl rhaniad Tsiecoslofacia cymerodd y gymdeithas yr enw Ffederasiwn Pêl-droed Bohemia-Morafia (Českomoravský fotbalový svaz; ČMFS) tan fis Mehefin 2011.
Heddiw
[golygu | golygu cod]Yn 1990 sefydlodd Gymdeithas Bêl-droed Tsiecoslofacia dan yr enw Československá fotbalová associace, ČSFA, a rannwyd yn gymdeithas Tsiec a Slofacaidd.
Gydag rhaniad Tsiecoslofacia yn ddwy wladwriaeth annibynnol, y Weriniaeth Tsiec a Slofacia, ym 1993, sefydlwyd y gymdeithas bêl-droed Českomoravský fotbalový svaz (ČMFS), a ailenwyd yn Fotbalová associace České republiky (FAČR) ym Mehefin 2011.
Rhennir yr FAČR yn 14 o gymdeithasau rhanbarthol, lle mae dros 15,000 o dimau yn chwarae. Rhennir y cymdeithasau rhanbarthol yn sawl cymdeithas ardal. Mae cymdeithasau rhanbarthol ac ardal yn seiliedig i raddau helaeth ar ffiniau gweinyddol.
Cystadlaethau
[golygu | golygu cod]- Uwch Gynghrair Tsiecia - ddim o dan reolaeth y FAČR
- Ail Gynghrair Tsiec - ddim o ran reolaeth y FAĊR
- Cynghrair Cyntaf Merched Tsiec
- Cwpan Tsiecia
- Supercup Tsiecia
- Cwpan Merched Tsiecia
Adrannau
[golygu | golygu cod]- Tîm pêl-droed cenedlaethol Tsiecia
- Tîm pêl-droed cenedlaethol merched y Weriniaeth Tsiec
- Tîm pêl-droed cenedlaethol merched dan 19 y Weriniaeth Tsiec
- Tîm pêl-droed cenedlaethol merched dan 17 y Weriniaeth Tsiec
- Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 21 oed
- Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 19 oed
- Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 18 oed
- Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 17 oed
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tan Mehefin 2011 enw'r ffederasiwn oedd federazione è stato Českomoravského fotbalového svazu (ČMFS), gweler yma
- ↑ Czech Republic Archifwyd 2018-07-17 yn y Peiriant Wayback at FIFA site
- ↑ Czech Republic at UEFA site
- ↑ "Böhmen - der geheime Europameister". Wiener Zeitung. 9 Mehefin 2021. Cyrchwyd 26 Ebrill 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol y FAČR
- Tsiecia ar wefan FIFA
- Tsiecia ar wefan UEFA