Derek Brockway
Derek Brockway | |
---|---|
Ganwyd | 29 Hydref 1967 y Barri |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu |
Cyflwynydd a meteorolegydd a gyflogir gan y Met Office yw Derek Brockway (ganwyd 29 Hydref 1967) wedi ei leoli gyda BBC Cymru yng Nghaerdydd, Cymru.
Addysg
[golygu | golygu cod]Fe anwyd Brockway yn y Barri. Fe aeth i Ysgol Gynradd Holton Road ac yna Ysgol Gyfun y Barri o 1979 i 1986. Fe aeth ymlaen i Goleg Morgannwg ym Mhontypridd, a Reading College of Technology lle dderbyniodd Tystysgrif BTEC Cenedlaethol Uwch yn Mathemateg, Ystadegaeth a Ffiseg yn 1993. Mae hefyd wedi cwblhau cyrsiau hyfforddi darogan tywydd proffesiynol yng Ngholeg y Met Office.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Fe gychwynnodd diddordeb Derek Brockway yn y tywydd fel bachgen yn ystod haf hir, poeth 1976.[1] Ar ôl ei lefel A, fe adawodd ysgol yn 1986 ac fe ddaeth yn Was Sifil gan ymuno â'r Met office, wedi ei leoli yn bennaf yng Nghanolfan Tywydd Caerdydd ond am adegau ym Maes Awyr Caerdydd, Maes Awyr Birmingham ac am wyth mis yn Ynysoedd y Falklands, gan gydweithio yn agos gyda'r Awyrlu Brenhinol.[2] Ar ôl astudio ymhellach a dyrchafiad, fe enillodd gymhwyster fel daroganwr tywydd yn 1995 ac fe ddechreuodd weithio yng Nghanolfan Tywydd Birmingham, gan ddarlledu ar draws nifer o orsafoedd BBC Radio ar draws Canolbarth Lloegr.
Yn Rhagfyr 1995 fe symudodd i Lundain, i weithio yn The London Studios ar y South Bank gyda chyd ddaroganwyr Martyn Davies a John Hammond, ac yn briffio'r cyflwynwyr tywydd Siân Lloyd, Laura Greene a Femi Oke. Yn ogystal â pharatoi'r rhagolygon ar gyfer yr ITV National Weather a Channel 4, roedd Brockway hefyd yn darlledu ar The Sunday Programme ar GMTV wedi ei gyflwyno gan Alastair Stewart a Steve Richards.
Ar ôl blwyddyn yn Llundain, fe gymerodd Brockway swydd fel Ymgynghorydd Amgylcheddol ym mhencadlys y Met office yn Bracknell. Fe ddychwelodd adre i Gymru yn Medi 1997 gan ymuno â BBC Wales Today i gymryd lle Helen Willetts fel y prif ddaroganwr tywydd. Gellir gweld Brockway ar BBC Wales Today, yn cyflwyno'r rhagolygon tywydd amser cinio, fin nos a hwyr y nos. Mae e hefyd yn cyflwyno bwletinau newyddion ar gyfer BBC Radio Wales yn ystod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae Brockway wedi ei gyfareddu gan y tywydd erioed ac mae wedi cyflwyno rhaglenni teledu (Derek’s Welsh Weather) a radio (Derek's Lightning Guide to Weather) ar y pwnc.
Mae'n gerddwr brwd ac fe gafodd pum cyfres o'r enw Weatherman Walking ar BBC Radio Wales cyn iddo drosglwyddo i fod yn gyfres deledu boblogaidd. Cafodd cyfres o deithiau cerdded eu dangos ar BBC One Cymru yn Ionawr 2011 ac roedd un arall wedi ei gynllunio ar gyfer 2012. Mae ei ymddangosiadau arall ar deledu yn cynnwys X-Ray, rhaglen ddefnyddwyr, Jamie and Derek's Welsh Weekends a The Big Welsh Challenge, rhaglen lle'r oedd enwogion Cymreig yn derbyn yr her o ddysgu Cymraeg. Ar ddechrau cyfres realiti Cariad@Iaith yn 2015, fe ddisgrifiwyd Brockway fel bod ganddo "tipyn bach o Gymraeg" er nad oedd yn rhugl;[3] enillydd y gyfres oedd Caroline Sheen. Mae wedi bod yn banelydd gwadd ar sioe Radio Wales What's The Story?.
Yn 2008 fe ehangwyd yr adran dywydd yn BBC Cymru ac fe ymunodd cyflwynwyr tywydd Sue Charles a Behnaz Akhgar sy'n darlledu amser brecwast ac ar y penwythnos. Maen nhw hefyd yn cymryd ei le pan nad yw e yn gweithio. Ar 26 Tachwedd 2009, fe ymddangosodd Brockway ar BBC One yn y bennod 1af o 3ydd cyfres Gavin & Stacey lle'r oedd yn cyflwyno'r tywydd fel ei hun. Fe gafodd ei grybwyll ym mhapur y Sunday Times ar 10 Ionawr 2010.[4] Ar 22 Mehefin 2010, fe ymddangosodd Brockway yn arholiad Gwrando ac Ymateb y CBAC ar gyfer Cymraeg Ail Iaith, yn darllen penawdau'r newyddion ac yn cael ei gyfweld gan gyfwelwyr arferol y bwrdd arholi. Fe gyflwynodd ei hun gyda'i gyfarchiad "Shw'mae!" nodweddiadol.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Brockway yn sengl[5] ac yn byw yng nghyffiniau Caerdydd. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys chwarae tenis, ymarfer ei Gymraeg, sgïo, cerdded, yoga a theithio.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]Mae Brockway wedi ysgrifennu pedwar llyfr, dau gan Gomer Press Archifwyd 2012-02-25 yn y Peiriant Wayback a dau lyfr cerdded gan Y Lolfa Archifwyd 2014-09-05 yn y Peiriant Wayback
- Brockway, Derek & Carey, Julian - Weatherman Walking - Y Lolfa, ISBN 0-86243-917-5
- Brockway, Derek - Whatever the Weather - Gomer Press, ISBN 1-84323-821-7
Cyhoeddwyd ei bedwerydd llyfr, llyfr i blant, ar 31 Hydref 2009
- Brockway, Derek & Carpenter, Suzanne [6] - Duck and Starfish - Gomer Press, ISBN 978-1-84851-114-9
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "1976 hot summer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-03-31. Cyrchwyd 2015-11-24.
- ↑ "Bio at BBC Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-10. Cyrchwyd 2015-11-24.
- ↑ S4C: Cariad@iaith Archifwyd 2016-02-08 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Sunday Times[dolen farw]
- ↑ WalesOnline - A day with BBC Wales weatherman Derek Brockway
- ↑ "Suzanne Carpenter". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-15. Cyrchwyd 2015-11-24.
Dolenni fideo
[golygu | golygu cod]- Rhagolwg tywydd diweddara Derek
- Derek and John Powell MBE - dyn tywydd Gwyr
- Weatherman Walking Archifwyd 2009-02-10 yn y Peiriant Wayback
- Derek Brockway a Tomos Dafydd yn rhoi cynnig ar ddawnsio'r glocsen
- Rhagolwg Tywydd Derek am 2050
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Read Derek's Blog Archifwyd 2014-10-23 yn y Peiriant Wayback
- Jamie and Derek's Welsh Weekends - TV programme Archifwyd 2011-07-07 yn y Peiriant Wayback
- Derek's Welsh Weather - TV programme[dolen farw]
- Vale Life Magazine - interview
- Stars strip for charity calendar - news article
- Big Welsh Challenge
- Just the Job - interview
- Only News Aloud Archifwyd 2009-01-11 yn y Peiriant Wayback
- BBC Wales Today past and present Archifwyd 2015-05-22 yn y Peiriant Wayback
- Activity Wales - magazine article
- Higher National Certificates Archifwyd 2012-10-15 yn y UK Government Web Archive