Harper Lee
Harper Lee | |
---|---|
Ffugenw | Harper Lee |
Ganwyd | 28 Ebrill 1926 Monroeville |
Bu farw | 19 Chwefror 2016 Monroeville |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, cerddor, sgriptiwr, bardd-gyfreithiwr, rhyddieithwr, actor |
Adnabyddus am | To Kill a Mockingbird |
Arddull | Southern Gothic |
Prif ddylanwad | William Faulkner |
Tad | Amasa Coleman Lee |
Mam | Frances Cunningham Finch |
Gwobr/au | Y Medal Celf Cenedlaethol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Pulitzer am Ffuglen, Oriel yr Anfarwolion Alabama |
llofnod | |
Nofelydd o'r Unol Daleithiau oedd Nelle Harper Lee (28 Ebrill 1926 – 19 Chwefror 2016) a oedd yn adnabyddus am ei nofel To Kill a Mockingbird. Roedd y nofel yn llwyddiant o'r cychwyn, gan ennill Gwobr Pulitzer ac fe ddaeth yn glasur o lenyddiaeth Americanaidd fodern.
Roedd y plot a'r cymeriadau wedi eu seilio yn fras ar ei arsylwadau o'i theulu a'i chymdogion, yn ogystal â digwyddiad yn agos i'w thref yn 1936, pan oedd yn 10 mlwydd oed. Mae'r nofel yn ymdrin ac afresymoldeb agwedd oedolion tuag at hil a dosbarth ym Mhellafoedd y De yn ystod y 1930au, drwy lygaid dau blentyn. Roedd y nofel wedi ei ysbrydoli gan yr agweddau hiliol a welodd fel plentyn yn ei chartref o Monroeville. Er mai dim ond un llyfr a gyhoeddodd Lee mewn hanner canrif, fe gwobrwywyd gyda Medal Rhyddid yr Arlywydd am ei chyfraniad i lenyddiaeth.[1] Derbyniodd Lee nifer o raddau er anrhydedd, ond dewisodd peidio siarad ar bob achlysur. Fe wnaeth Lee gynorthwyo ei ffrind agos Truman Capote gyda'i ymchwil ar gyfer ei lyfr In Cold Blood (1966).[2]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd a magwyd Nelle Harper Lee yn Monroeville, Alabama, yr ieuengaf o bedwar o blant i Frances Cunningham (Finch) a Amasa Coleman Lee.[3] Ei enw cyntaf, Nelle, oedd enw ei mamgu wedi ei sillafu o chwith, a dyna'r enw roedd hi'n defnyddio.[4] Harper Lee oedd ei llysenw.[4] Roedd ei mam yn wraig tŷ; roedd ei thad, yn gyn golygydd a pherchennog papur newydd, yn gyfreithiwr a wasanaethodd gyda Deddfwrfa Daleithiol Alabama o 1926 hyd 1938. Cyn i A.C. Lee ddod yn gyfreithiwr teitl, fe amddiffynnodd dau ddyn du oedd wedi ei gyhuddo o lofruddio perchennog siop gwyn. Cafodd y ddau, tad a mab, eu crogi.[5] Roedd gan Nelle Lee tri brawd neu chwaer: Alice Finch Lee (1911–2014),[6] Louise Lee Conner (1916–2009) ac Edwin Lee (1920–1951).[7]
Wrth fynychu Ysgol Uwchradd Sirol Monroe, datblygodd Lee ddiddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg. Ar ôl graddio o ysgol uwchradd yn 1944,[3] fe fynychodd y coleg i ferched (ar y pryd) Huntingdon College yn Montgomery am flwyddyn, yna trosglwyddodd i Brifysgol Alabama yn Tuscaloosa, lle astudiodd y gyfraith am sawl blwyddyn, a lle ysgrifennodd i bapur newydd y brifysgol, ond ni chwblhaodd ei gradd.[3]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]By farw Lee yn ei chwsg ar fore 19 Chwefror 2016 yn 89 mlwydd oed.[8][9] Hyd ei marwolaeth, roedd hi'n byw yn Monroeville, Alabama.[10]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Llyfrau
[golygu | golygu cod]- To Kill a Mockingbird (1960)
- Go Set a Watchman (2015)
Erthyglau
[golygu | golygu cod]- "Love—In Other Words". (15 Ebrill 1961) Vogue, pp. 64–65
- "Christmas to Me". (Rhagfyr 1961) McCall's
- "When Children Discover America". (Awst 1965) McCall's
- "Romance and High Adventure" (1983), papur gyflwynwyd yn Eufaula, Alabama, a gasglwyd yn 1985 yn y casgliad Clearings in the Thicket.
- Llythyr agored ii Oprah Winfrey (Gorffennaf 2006), O: The Oprah Magazine
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "President Bush Honors Medal of Freedom Recipients" (Press release). The White House. 5 Tachwedd 2007. http://georgewbush-whitehouse.archives.gov/news/releases/2007/11/20071105-1.html.
- ↑ Harris, Paul. Harper Lee sues agent over copyright to To Kill A Mockingbird (en) , 4 Mai 2013.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Nelle Harper Lee. The Encyclopedia of Alabama. Auburn University at Montgomery (19 Mawrth 2007). Adalwyd ar 3 Tachwedd 2010.
- ↑ 4.0 4.1 Kovaleski, Serge. Harper Lee's Condition Debated by Friends, Fans and Now State of Alabama , 11 Mawrth 2015. Cyrchwyd ar 12 Mawrth 2015.
- ↑ Shields, Charles J. (2006). Mockingbird: A Portrait of Harper Lee. Henry Holt and Co.. URL
- ↑ Woo, Elaine. Lawyer Alice Lee dies at 103; sister of 'To Kill a Mockingbird' author (en) , 22 Tachwedd 2014.
- ↑ Louise L. Conner Obituary (en) .
- ↑ Harper Lee, 'To Kill a Mockingbird' author, dead at 89 (en) , 19 Chwefror 2016.
- ↑ Harper Lee dead at age of 89: 'To Kill a Mockingbird Author' passes away (en) , AL.com, 19 Chwefror 2016.
- ↑ US author Harper Lee dies aged 89 (en) , 19 Chwefror 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Harper Lee Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback ar Rhestr Llyfrau Rhyngrwyd
- Harper Lee ar wefan yr Internet Movie Database
- Gweithiau gan neu am Harper Lee mewn llyfrgelloedd (Catalog WorldCat)
- Harper Lee ar wefan The Guardian