Neidio i'r cynnwys

Pontrhydfendigaid

Oddi ar Wicipedia
Pontrhydfendigaid
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYstrad Fflur Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2823°N 3.8628°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN730666 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng ngogledd Ceredigion yw Pontrhydfendigaid[1] (neu Pont-rhyd-fendigaid). Fe'i adnabyddir ar lafar yn lleol fel Y Bont.

Mae'n gorwedd ar lan Afon Teifi yn agos i'w tharddle ym mryniau Elenydd, canolbarth Cymru. Cymryd y pentref ei enw o hen ryd ar yr afon honno a'r bont a godwyd yno. Mae ar lôn y B4343 rhwng Tregaron i'r de a Phontarfynach i'r gogledd, tua 13 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth.

Pontrhydfendigaid

Tua milltir i'r dwyrain o'r pentref ceir adfeilion Abaty Ystrad Fflur, un o abatai enwocaf Cymru, a sefydlwyd gan y Sistersiaid yn 1164. Roedd yn ganolfan dysg bwysig a chredir i un o fersiynau cynharaf Brut y Tywysogion gael ei lunio yno. Yn ôl traddodiad, claddwyd y bardd Dafydd ap Gwilym yno.

Cynhelir eisteddfod flynyddol ym Mhontrhydfendigaid, sef Eisteddfod Pantyfedwen ("Steddfod Bont"). Yma hefyd ceir Pafiliwn Bont, adeilad amlbwrpas modern lle cynhelir cyngherddau a digwyddiadau eraill. Mae'r ddau sefydliad yma wedi elwa'n fawr o haelioni Syr D.J. James, Pantyfedwen.

Pontrhydfendigaid yn niwylliant cyfoes Cymru

[golygu | golygu cod]

Mewn erthygl y Y Selar yn 2020, meddai'r canwr Huw Jones iddo gredu mai yng nghyngerdd fawr Pinaclau Pop ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Mehefin 1968 y clywyd y term "y byd pop Cymraeg" am y tro cyntaf. Mae'r erthygl yn cynnwys tameidiau o'i hunangofiant, 'Dwi Isio Bod yn Sais ...'. Ymysg y grwpiau oedd yno i godi arian i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Aberystwyth 1969 oedd; Dafydd Iwan, Heather Jones, Y Diliau, Hogia Llandegai, Y Derwyddon ac eraill.[2]

Credai rhai y seilwyd rhaglen deledu C'mon Midffild! ar glwb pêl-droed Pontrhydfendigaid.[angen ffynhonnell]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 15 Hydref 2024
  2. "Dwi Isio Bod yn Sais ..." Y Selar. 2020. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]