T. G. Jones
T. G. Jones | |
---|---|
Ganwyd | 12 Hydref 1917 Cei Connah |
Bu farw | 3 Ionawr 2004 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed |
Chwaraeon | |
Tîm/au | C.P.D. Wrecsam, Everton F.C., C.P.D. Pwllheli, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru |
Safle | amddiffynnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gyrfa Lawn* | |||
---|---|---|---|
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1934–1936 | Wrecsam | 6 | (0) |
1936–1950 | Everton | 178 | (5) |
1950–1957 | Pwllheli | ||
1957–1959 | Bangor | ||
Tîm Cenedlaethol | |||
1938–1950 | Cymru | 17 | (?) |
1939–1945 | Cymru (adeg rhyfel) | 11 | (?) |
Timau a Reolwyd | |||
1950–1957 | Pwllheli | ||
1957–1967 | Bangor City | ||
1968 | Rhyl | ||
1971-1972 | Bethesda | ||
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Roedd Thomas George "T. G." Jones (12 Hydref 1917 – 3 Ionawr 2004) yn chwaraewr pêl-droed o Gymru ac yn fwyaf nodedig am ei yrfa gydag Everton a Chymru.[1][2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Wedi'i eni yn Queensferry a'i fagu yng Nghei Connah, dechreuodd Tommy (T. Jones) ei yrfa broffesiynol gyda Wrecsam. Ymunodd ag Everton am £3,000 ym 1936. Enillodd fedal pencampwr Rhanbarth Cynghrair Cyntaf Pêl-droed yn ei ail dymor llawn yn unig i Everton yn 1938-39, cyn i'r Rhyfel Byd Cyntaf ymyrryd a'i yrfa. Fe wnaeth Jones wasanaethu fel Hyfforddwr Ymarfer Corff yn yr RAF yn ystod y rhyfel, ond dychwelodd i Everton ym 1946. Bu A. S. Roma yn llwyddiannus yn cynnig swm o £15,000 amdano, swm mawr yn y dyddiau hynny, ond ni ddigwyddodd y trosglwyddiad oherwydd rheoliadau cyfnewid tramor. Ar ôl y rhyfel, trosglwyddodd Everton Tommy Lawton i Chelsea a Joe Mercer i Arsenal. Roedd y cytundebau hyn nid yn unig yn ergyd i dîm Everton, ond iddo ef yn bersonol, ac yntau wedi bod yn was priodas i Joe Mercer.
Cyhuddodd cyfarwyddwr clwb Jones, yn ddi-sail, o ffugio anaf mewn gêm yn ystod y rhyfel ac roedd ei ymddangosiadau hŷn wedi hynny yn ysbeidiol. Roedd anaf Jones mewn gwirionedd yn ddigon difrifol i'w roi yn yr ysbyty am bedwar mis. Unwaith y daeth y berthynas gyda'r rheolwr Cliff Britton mor ddrwg na chafodd ei ddewis hyd yn oed ar gyfer y tîm wrth gefn, a chwaraeodd yn gyfrinachol ar gyfer Hawarden Grammar Old Boys. Daeth Jones yn gapten clwb yn 1949 ond ar ôl colli ei boblogrwydd, ym mis Ionawr 1950, derbyniodd gynnig i adael Everton ac ymuno â Phwllheli. Gwnaeth 178 o ymddangosiadau i gyd ar gyfer Everton, gan sgorio pum gôl.
Enillodd Jones 17 cap ar gyfer Cymru ac un ar ddeg o gapiau mewn gemau rhyngwladol yn ystod y rhyfel.
Wedi i Jones adael Everton bu'n chwarae pêl-droed tu allan y gynghrair ar gyfer Pwllheli a daeth yn rheolwr rhan amser, yn ogystal â rhedeg gwesty yn y dref. Yn 1957 daeth yn rheolwr Dinas Bangor. Yn 1962, ar ôl ennill Cwpan Cymru, fe wnaeth y tîm guro Napoli 2-0 yn y gêm gartref yng Nghwpan Enillwyr Ewrop ond colli o 1-3 yn yr Eidal. Heb y rheol gôl i ffwrdd, collodd Bangor yn y gem ail-chwarae o 3-1. Daeth ei yrfa fel rheolwr i ben yn Y Rhyl ac yna bu'n gynghorwr am gyfnod byr i Fethesda. Yn ddiweddarach, bu Jones yn rhedeg siop gwerthu papurau newydd yng Ngogledd Cymru.
Etholwyd ef yn Milennium Giant gan Everton yn 2000, un o'r un ar ddeg cyntaf yn hanes hir y clwb i dderbyn yr anrhydedd. Disgrifiodd y panel o aseswyr ef fel pêl-droediwr di-ymdrech, medrus a hyderus.[3] Pasiodd y bêl o'i safle yn y canol yn yr un modd ac y byddai Franz Beckenbauer yn ei wneud yn ddiweddarach. Roedd yn enwog am ei ymddygiad ar y cae chwarae. Dynododd Stanley Matthews, Tommy Lawton, Joe Mercer a Dixie Dean Jones fel y chwaraewr mwyaf a welwyd erioed. Dywedodd cyn-seren Lerpwl o'r un cyfnod, Cyril Done, fod "T. G. yn wr bonheddig oddi ar ac ar y cae".
Yn ogystal â'i yrfa chwarae, roedd Tommy yn allweddol wrth ailsefydlu pêl-droed uwch yn ei dref ar ôl cwymp Cei Connah a Shotton United yn 1927, dim ond chwe mis ar ôl iddynt ennill Cwpan Cymru a maeddu enillwyr Cwpan FA y tymor blaenorol sef Dinas Caerdydd yn y rownd derfynol. Er bod clybiau iau, yr enwog Cei Connah Albion, yn chwarae yn y dref, ni fu tan ymyrraeth Tommy ym mis Gorffennaf 1946 y ffurfiwyd clwb Nomads Connah, sef clwb y Nomads heddiw. Wedi eu denu gan enw da'r rhyngwladwr enwog, roedd pobl ifanc o Gei Connah a'r trefi a'r pentrefi cyfagos yn heidio i ymuno â'r tîm newydd a datblygodd yn gyflym i fod yn yn dîm pêl-droed ieuenctid cryf yng Ngogledd Cymru, gan ennill Cwpan Ieuenctid Cymru ym 1948. Drwy ddilyniant naturiol ffurfiwyd tîm uwch gan ymuno â Chynghrair Sir y Fflint ym 1948. Dilynodd llwyddiant yn fuan a chyrhaeddodd Juniors Cei Conna rownd derfynol Cwpan Amatur Cymru yn 1950/51. Cyn tymor 1952/53, mabwysiadwyd yr enw Nomads gan sicrhau lle yng Nghynghrair Cymru (Gogledd).
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Bu farw ei wraig Joyce in 2003. Cafodd ei oroesi gan ei ddwy ferch, Jane ac Elizabeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Obituary of TG Jones". The Guardian. https://www.theguardian.com/news/2004/mar/13/guardianobituaries.football. Adalwyd 22 Mawrth 2017.
- ↑ "Obituary of TG Jones". The Independent. 14 Ionawr 2004.
- ↑ "Everton FC obituary". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-12. Cyrchwyd 14 Hydref 2008.